1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 26 Ionawr 2022.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd prosiect creu coetiroedd Llywodraeth Cymru? OQ57523
Gwnaf. Nododd yr adroddiad at wraidd y mater ar goed a phren y camau y byddwn yn eu cymryd i greu mwy o goetiroedd, gan gynnwys cynllun ariannu newydd a newidiadau i’r ffordd y caiff prosiectau eu dilysu. Caiff y rhain eu gweithredu a’u goruchwylio gan banel cyflawni a gadeirir gennyf fi.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Mae clefyd coed ynn yn glefyd ffyngaidd cyffredin sy'n effeithio ar lawer iawn o goed ynn Cymru, y drydedd goeden fwyaf cyffredin yng Nghymru. Yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, rydym wedi gweld pa mor niweidiol y gall y clefyd hwn fod. Ar Ystad Ystangbwll yn unig—y cefais y pleser o ymweld â hi ddydd Llun i blannu coeden fel rhan o ymgyrch gwledd y gwanwyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol—bydd yr ymddiriedolaeth yn torri dros 900 o goed ynn y gaeaf hwn, ar gost o £30,000. Ledled Cymru, mae 6,500 o goed ynn wedi’u rheoli oherwydd clefyd coed ynn ers 2020, ac mae 20,500 o goed eraill wedi’u dynodi fel rhai sydd angen gwaith diogelwch. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi fel Dirprwy Weinidog fod ein strategaeth blannu coed bresennol yn plannu mwy o goed nag sy’n cael eu difa oherwydd y clefyd hwn, ac a fydd ffigurau creu coetiroedd Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu cyfanswm y coed yng Nghymru yn gywir, gan gynnwys y rhai a dorrwyd, yn hytrach na nifer y coed newydd a blannwyd yn unig? Diolch yn fawr.
Wel, mae Sam Kurtz yn llygad ei le fod clefyd coed ynn yn fygythiad difrifol i’n coed. Amcangyfrifir fod oddeutu 97 y cant o goed ynn y DU yn agored i gael eu heintio gan glefyd coed ynn. Yr wythnos hon yn unig, cyfarfu grŵp strategol Cymru ar glefyd coed ynn ag amrywiaeth o randdeiliaid i roi adborth ar ganllawiau drafft i gynorthwyo perchnogion tir i reoli eu coed ynn, a byddwn yn cyhoeddi'r rheini yn y gwanwyn. Felly, gwyddom fod angen inni sicrhau hefyd fod y coed rydym yn eu plannu yn gallu gwrthsefyll afiechydon yn y dyfodol. Mae’n debygol, o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd, y bydd ein coed yn wynebu ystod ehangach o fygythiadau, a dyna pam ei bod yn bwysig hefyd, pan fyddwn yn plannu coed, nad ydym yn plannu ungnydau. Felly, mae safon coedwigaeth y DU, er enghraifft, y mae’n rhaid i’r holl waith plannu coed rydym yn ei ariannu gydymffurfio â hi, yn ei gwneud yn ofynnol i blannu o leiaf bum math gwahanol o goed i warchod yn rhannol rhag y math hwn o fygythiad.
Fel y gŵyr yr Aelod, mae gennym dargedau uchelgeisiol ar gyfer plannu mwy o goed, wedi’u harwain gan gyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ar nifer y coed sydd eu hangen arnom i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Ac wrth gwrs, maent hefyd yn mynd i'r afael â'r argyfwng natur. Felly, nododd yr adroddiad at wraidd y mater a gynlluniwyd i gael gwared ar rwystrau fod angen inni blannu mwy nag 80 miliwn o goed o fewn y naw mlynedd nesaf. Ac mae angen inni blannu amrywiaeth o goed, coed ar gyfer cnydau, fel y gallwn greu diwydiant pren Cymreig, ond hefyd coed ar gyfer bioamrywiaeth, a choed collddail hefyd, ond coed ar dir fferm yn bennaf. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda ffermwyr, a hwy sy'n arwain y gwaith hwn. Pe bai pob ffermwr yn plannu coed ar hectar o'u tir, byddem yn cyflawni ein targed. Felly, nid ydym am weld planhigfeydd enfawr fel rheol, ond rydym am weld pob ffermwr a phob perchennog tir, yn ogystal â chymunedau, yn croesawu plannu coed fel rhywbeth sy’n dda ar gyfer newid hinsawdd ond sydd hefyd yn dda ar gyfer iechyd a llesiant yn eu cymunedau.
Ymddiheuriadau—problemau technolegol. Weinidog, dwi'n clywed adroddiadau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn prynu ffermydd teuluol yng Nghymru er mwyn plannu coed, efo pryderon bod y tir yma felly yn cael ei dynnu allan o dir cynhyrchu bwyd ac yna'r pris, gwerth y tir, yn cynyddu. Mae hyn nid yn unig yn niweidiol i amaethyddiaeth, ond yn golygu bod llai o fwyd yn cael ei gynhyrchu yma. Ydy hyn yn rhan o gynllun coedwigaeth y Llywodraeth, ac a ydych chi'n credu ei fod yn iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn prynu tir at y dibenion yma, os mai dyna'r achos? Diolch.
Wel, credaf fod pob un ohonom yn cytuno bod angen inni blannu mwy o goed, felly golyga hynny fod angen mwy o dir i blannu'r coed hynny arno. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn amcangyfrif bod arnom angen oddeutu 10 y cant o newid mewn defnydd tir o gynhyrchu bwyd i blannu coed, fel cnwd ar gyfer cynhyrchu pren, fel y dywedais, ond hefyd ar gyfer dal a storio carbon. A nodaf hefyd, fel rhan o'n cytundeb partneriaeth â Phlaid Cymru, ein bod yn bwriadu bod yn fwy uchelgeisiol na'r targed sero net erbyn 2050 ac edrych ar yr hyn y byddai'n ei gymryd i gyflawni sero net erbyn 2035, a gallaf ddyfalu bod y gwaith hwnnw'n mynd i ddangos bod angen inni blannu mwy byth o goed. Felly, byddwn yn gobeithio bod Mabon ap Gwynfor yn gefnogol i’n hymdrechion i blannu mwy o goed, a bydd angen rhywfaint o newid mewn defnydd tir er mwyn gwneud hynny. Ond fel y dywedais yn yr ateb i Sam Kurtz, os gwneir hyn ar raddfa fawr gan yr holl berchnogion tir a ffermwyr, nid oes ond angen ychydig o newid ar y tir y maent yn ei ffermio ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio’n agos gyda Coed Cadw, ac mae ganddynt fenter ragorol i annog ffermwyr i blannu perthi ac ymylon caeau. Mae gan bob ffermwr ran o’u ffermydd y byddent yn barod i’w defnyddio i blannu coed, a dyna’r sgwrs rydym am ei chael gyda phob un ohonynt fel rhan o’r cynllun ffermio cynaliadwy, i nodi’r tir hwnnw a’i gwneud yn haws iddynt blannu ar y tir hwnnw. Nid yw'n ddefnyddiol cwestiynu'n barhaus a yw plannu coed yn rhywbeth y mae angen inni ei wneud ai peidio a dod o hyd i resymau dro ar ôl tro dros rwystro'r cynnydd. Rhaid ei wneud mewn modd sensitif, rhaid ei wneud gyda'r cymunedau. Rwyf am i ffermwyr Cymru arwain y gwaith, ond mae’n mynd i olygu ychydig bach o newid defnydd tir.