Parth 200 Milltir Forol Cymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:11, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Janet. Rwyf wedi ymrwymo i amgylchedd morol gwydn sy'n cwmpasu holl barth morol Cymru. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i raglen adfer a gwella ecosystemau morol. Mae'r broses ddynodi ar gyfer parthau cadwraeth morol alltraeth yn bennaf a'r camau rheoli ar gyfer ein hardaloedd morol gwarchodedig yn cefnogi'r nod hwn.