Teithio Llesol yng Nghaerffili

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:16, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r cyllid hwnnw i'w groesawu'n fawr. Rwyf wedi gweld ledled yr etholaeth, a thrwy'r fwrdeistref yn wir, yr effaith y mae hynny wedi'i chael, yn fwyaf diweddar yng Nghwm Calon, lle mae'r llwybr beicio wedi'i agor am y tro cyntaf ac wedi cael  croeso mawr gan drigolion. Fodd bynnag, hoffwn ganolbwyntio ar ran benodol o'r etholaeth. Mae pont droed Ty'n-y-graig dros reilffordd cwm Rhymni yn Llanbradach wedi bod ar gau ers mis Ebrill 2020 ar ôl i'r bont gael ei difrodi ac yna cafodd ei symud wedyn gan Trafnidiaeth Cymru am resymau diogelwch. Yn anffodus, mae aelodau etholedig lleol wedi gwneud rhai sylwadau maleisus sy'n awgrymu nad oes gan Trafnidiaeth Cymru unrhyw fwriad i osod pont arall yn lle'r bont honno. Nid yw hynny'n wir. Hoffwn ddweud fy mod wedi cael cyfarfod â Trafnidiaeth Cymru ac maent wedi dweud yn gwbl glir mai eu bwriad yw gosod pont arall—y bydd hynny'n digwydd. Fodd bynnag, mae'r amserlen yn weddol hir. Roeddent yn mynd i gyflwyno pont dros dro, ond canfuwyd wedyn y byddai hynny'n ymyrryd â'r gwaith sydd ei angen i gyflwyno pont barhaol, sy'n siomedig. Fodd bynnag, fe gaiff pont newydd ei chodi. Hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog a wnaiff ymrwymo i weithio gyda swyddogion Trafnidiaeth Cymru i wneud popeth yn ei allu i gwtogi'r amserlen sy'n weithredol ar hyn o bryd ar gyfer codi pont newydd barhaol. Byddai croeso mawr i unrhyw gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i Trafnidiaeth Cymru yn yr amgylchiadau hyn.