Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 26 Ionawr 2022.
Gallaf gadarnhau'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud: yn sicr, fe gaiff pont ei chodi ac rydym yn gobeithio y bydd yn ei lle ymhen blwyddyn, rhwng diwedd mis Mawrth a mis Ebrill 2023. Mae wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl. Fel y dywedodd Hefin David, cafodd ei difrodi'n ddifrifol gan lori ac yna bu'n rhaid ei chwalu. Mae'r broses y bu'n rhaid mynd drwyddi, gyda chynllun pwrpasol ar gyfer y lleoliad penodol hwn, wedi bod yn gymhleth, ac yn amlwg cawsom ein taro gan COVID ar yr un pryd. Rwy'n ymddiheuro i'r trigolion am yr oedi y maent wedi gorfod ymdopi ag ef, ond mae pob bwriad gan Trafnidiaeth Cymru i godi pont newydd yn lle'r bont hon.