Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:49, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Edrychaf ymlaen at weld datblygiadau ar hyn wrth i hynny fynd rhagddo.

Roeddwn am godi mater gwahanol gyda chi y prynhawn yma, ond amser cinio heddiw, roedd nifer o'r Aelodau yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol ar aer glân, a chlywsom gyflwyniad pwerus iawn gan rywun o’r enw Rosamund y bu farw ei merch, a oedd yn byw yn Llundain, rwy'n credu, a chanfuwyd bod llygredd aer wedi cyfrannu’n sylweddol nid yn unig at y ffaith ei bod wedi marw, ond hefyd at y rheswm pam fod asthma arni yn y lle cyntaf.

Ymddengys ein bod yn gwybod mwy bob blwyddyn am yr effaith wirioneddol niweidiol y mae llygredd aer yn ei chael ar lefelau dementia hyd yn oed, ond yn sicr ar iechyd plant, ar iechyd anadlol. A allwch roi unrhyw ddiweddariad i ni os gwelwch yn dda ynglŷn â pha amserlen rydych yn ei dilyn er mwyn cyflwyno Deddf aer glân i Gymru?