1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 26 Ionawr 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Ym mis Mehefin 2021, fe wnaeth Senedd Cymru ddatgan argyfwng newid hinsawdd a natur. Gwnaethom bleidleisio o blaid cyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Bum mis yn ddiweddarach, fodd bynnag, ym mis Tachwedd, y gorau y gallech chi, Weinidog, a Phlaid Cymru ei wneud oedd ailadrodd yr hyn rydym wedi cytuno arno eisoes, sef fod gan dargedau rôl i’w chwarae yn helpu i ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth. Nawr, anfonodd Cyswllt Amgylchedd Cymru lythyr atoch chi a’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yn nodi nad yw'r camau gweithredu sy'n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng natur yn ddigon mawr nac yn ddigon cyflym. Nawr, rwyf fi ac eraill yn cytuno â Cyswllt Amgylchedd Cymru fod angen i Gymru, fel un o’r gwledydd lle mae natur wedi teneuo fwyaf yn y byd, arwain y ffordd ar osod targedau a fydd yn ysgogi camau gweithredu ac yn atal degawd arall o golled i fyd natur. Yn ogystal ag ymateb i Cyswllt Amgylchedd Cymru, a wnewch chi egluro i’r Senedd heddiw pam nad ydych wedi gosod targedau adfer natur mewn cyfraith eto, ac a ydych wedi ymateb i Cyswllt Amgylchedd Cymru eto ynghylch eu llythyr o bryder?
Diolch, Janet. Felly, pan wnaethom ddatgan yr argyfwng natur, dywedais yn hynod o glir ein bod yn aros i weld beth oedd canlyniad COP15 cyn inni osod y targedau statudol sylfaenol ar gyfer adfer natur—felly, atal dirywiad natur ac yna adfer natur, gan fod angen inni gyflawni'r ddau beth. Rydym hefyd wedi dweud y byddwn yn ymrwymo, wrth gwrs, i'r targedau o 30 y cant erbyn 2030, er ein bod yn gobeithio eu gwella o ganlyniad i drafodaethau COP15. Rwyf wedi dweud hynny'n glir bob amser, felly nid yw fel pe na baem wedi gwneud unrhyw beth; rydym bob amser wedi dweud yn glir mai dyna roeddem yn dibynnu arno er mwyn gweld beth y dylai'r targedau fod.
Cyfarfûm â Cyswllt Amgylchedd Cymru yn ddiweddar; rwy'n cyfarfod â hwy'n rheolaidd iawn yn wir. Yn sicr, rydym ar yr un dudalen â hwy. Mae angen inni osod targedau uchelgeisiol sy'n gyraeddadwy. Mae angen inni ddeall nad oes a wnelo hyn â’r targedau’n unig; mae'n ymwneud â rhoi'r holl adnoddau ar waith ynghyd â'r camau gweithredu angenrheidiol i gyflawni'r targedau hynny. Felly, nid yw fel pe baech yn dewis targed mympwyol ac yn dweud 'Dyma ni felly.' Felly, mae gennym gryn dipyn o waith i'w wneud i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni'r targedau.
Ychydig ar ôl hanner tymor mis Chwefror, byddaf yn cynnal astudiaeth at wraidd y mater o fioamrywiaeth, atal a gwrthdroi ei dirywiad, er mwyn inni gael adferiad, fel y gallwn ddeall nid yn unig beth y dylai’r targedau fod, ond beth y dylai'r mesurau y mae angen inni eu rhoi ar waith er mwyn gwneud hynny fod, a byddaf yn gwneud hynny ar y cyd â’n partneriaid statudol, awdurdodau lleol a sefydliadau anllywodraethol ledled Cymru. Felly, rydym yn sicr yn gweithio tuag at hynny. Fel y dywedaf, rydym yn cymryd rhan ym mhroses y COP15, ac yn sicr, nid oes unrhyw oedi wedi bod o ran yr amserlen a nodais pan wnaethom ddatgan yr argyfwng natur.
Diolch. Nawr, un maes a fyddai’n elwa’n fawr o dargedau mwy uchelgeisiol yw eich addewid i adfer 800 i 900 hectar o fawndiroedd y flwyddyn. Nawr, yn y grŵp trawsbleidiol ar fioamrywiaeth, cafwyd consensws cyffredinol fod yn rhaid inni ariannu gwaith adfer mawndiroedd yn ddigonol fel rhan o’r ymyriadau gwledig a nodir yn eich rhaglen lywodraethu. Mae'n destun gofid, fodd bynnag, fod cynrychiolwyr ymddiriedolaethau natur Cymru wedi dweud yn glir, pe baem yn parhau ar eich trywydd presennol, y byddai’n cymryd dros 100 mlynedd inni adfer ein holl fawndiroedd yng Nghymru. Felly, yn y pwyllgor newid hinsawdd yr wythnos diwethaf, ar ôl imi godi pryderon y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn gwario llai na 3 y cant o’u cyllideb llifogydd ar atebion naturiol, ymatebodd CNC y byddant yn cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i ehangu’r gwaith hwn. Weinidog, pa ymrwymiad y gallwch ei roi i ni heddiw y byddwch yn rhoi unrhyw gais am waith rheoli llifogydd drwy adfer mawndiroedd gan CNC ar lwybr carlam? Ac o ystyried yr angen i annog ac ymgysylltu â dinasyddion gwyddonol, a allwch gadarnhau hefyd pa gamau y byddwch yn eu cymryd i gydweithio â’r trydydd sector i gynnwys mwy o'r gymuned yn hynny? Diolch.
Felly, unwaith eto, Janet, rydym yn awyddus iawn i weithio gyda grŵp o wyddonwyr i ddeall beth yn union y mae adfer yn ei olygu. Felly, unwaith eto, nid oes a wnelo'r rhain â'r targedau yn unig; mae’r rhain yn ymwneud â’r prosesau y mae angen inni eu rhoi ar waith er mwyn eu cyflawni. Rydym ar hyn o bryd—fel y gwyddoch, gan eich bod yn y pwyllgor pan oeddwn yn rhoi tystiolaeth hefyd—yn cynnal adolygiad sylfaenol gyda CNC am eu cyllid yn gyffredinol, a sicrhau ei fod yn symlach ac yn addas i’r diben drwy gynnal adolygiadau proses o'r dechrau i'r diwedd gyda hwy. Yn sicr, byddaf yn gweithio'n galed iawn gyda CNC i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau iawn yn y lle iawn i wneud yr holl waith hwn, ac wrth gwrs, byddant yn rhan hollbwysig o'r astudiaeth at wraidd y mater o fioamrywiaeth y soniais amdani. Ac fel rhan o hynny, wrth gwrs, byddwn yn edrych ar adferiad nifer fawr o wahanol fathau o gynefinoedd ledled Cymru, gan gynnwys mawndiroedd.
Diolch. Gan fod mawn bum gwaith yn fwy effeithiol na choed am storio carbon, nid oes unrhyw esgus bellach dros beidio â chynyddu a chyflymu buddsoddiad er mwyn diogelu ac adfer ein mawndiroedd. Mae pob un ohonom yn cytuno ar yr angen i ddiogelu’r amgylchedd, ond ymddengys eich bod wedi methu cyflawni Brexit gwyrdd i Gymru hyd yma, Weinidog. Mae Deddf Amgylchedd y DU 2021 a Deddf Ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd (Parhad) (Yr Alban) 2021 yn cynnwys egwyddorion amgylcheddol a threfniadau llywodraethu gyda’r bwriad o sicrhau cydymffurfiaeth ac atebolrwydd yn Lloegr a’r Alban. Ac unwaith eto, gan ddyfynnu Cyswllt Amgylchedd Cymru, cymharol ychydig y mae Cymru wedi'i gyflawni. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrthyf y bydd yn rhaid i amseriad unrhyw waith ar strwythurau llywodraethu amgylcheddol hirdymor aros tan ar ôl y trafodaethau cymhleth gyda'ch partneriaid clymblaid newydd, Plaid Cymru. Felly, yn hytrach na gadael i blaid wleidyddol arall yn y Senedd ohirio Brexit gwyrdd yn yr argyfwng natur hwn, Weinidog, a wnewch chi gadarnhau y bydd yr amserlen ar gyfer gwaith paratoadol ar lywodraethu amgylcheddol yn cael ei roi ar lwybr carlam, a chadarnhau pa randdeiliaid rydych yn gobeithio eu gweld yn rhan o'r trafodaethau hynny ac y cyflawnir hynny gyda'r cyrff a sefydlwyd yn Lloegr a’r Alban?
Diolch, Janet. Unwaith eto, rydych wedi cyfuno oddeutu pum peth gwahanol, felly nid wyf am geisio datod yr hyn a ddywedoch. Y Brexit gwyrdd y soniwch amdano, wrth gwrs, pe baem wedi aros o fewn y trefniadau llywodraethu Ewropeaidd, ni fyddem wedi gorfod gwneud unrhyw beth ychwanegol, ac un o'r pethau mawr i ni fydd cynnal safon debyg i'r cyfreithiau Ewropeaidd yn y dyfodol, a pheidio â chael y Llywodraeth Geidwadol bresennol yn mynd ati eisoes i ddileu llawer o'r amddiffyniadau sydd gennym mewn nifer o feysydd yn Lloegr. Felly, rwy'n anobeithio ynghylch y syniad mai Brexit gwyrdd yw'r hyn rydym yn sôn amdano. Mae'n eithaf amlwg, o'r amrywiol ddeddfau a gyflwynwyd eisoes, nad hynny rydym yn sôn amdano. Yma yng Nghymru, mae gennym drefniadau interim ar waith ar gyfer diogelu'r amgylchedd. Byddwn yn deddfu, wrth gwrs, i roi hynny ar sail statudol. Rwy'n dymuno gwneud hynny ar yr un pryd ag y byddwn yn rhoi’r targedau ar gyfer atal dirywiad ac adfer bioamrywiaeth ar waith, ac felly byddwn yn cyflwyno’r rheini pan fydd y trefniadau hynny ar waith gennym. Yn y cyfamser, mae gennym drefniadau interim gweithredol ar waith i wneud hynny.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Weinidog, cynhyrchodd Ystad y Goron yng Nghymru £8.7 miliwn o refeniw y llynedd, ac mae prisiad portffolio morol yr ystad yng Nghymru wedi cynyddu o £49.2 miliwn i £549.1 miliwn. Mae’r rhain yn adnoddau a allai alluogi Cymru i ddatblygu ein diwydiant ynni adnewyddadwy a chadw cyfoeth i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn hytrach na gwerthu asedau gwerthfawr i’r cynigydd tramor uchaf. Y mis hwn, arwerthodd yr Alban 17 opsiwn gwely’r môr, cyfanswm o 25 GW, drwy Ystad y Goron yr Alban, ac arweiniodd hynny at £700 miliwn ychwanegol o gyllid cyhoeddus i'r Alban, yn seiliedig ar ddatblygu cynaliadwy. Ni all Cymru wneud hyn, gan nad yw Ystad y Goron wedi’i datganoli. Felly, rydych wedi dweud yn y gorffennol, Weinidog, eich bod yn cefnogi ei datganoli, ond mae angen mynd ati i wneud hyn, neu rydym mewn perygl o lesteirio ein hymdrechion i ddatblygu diwydiant ynni'r môr ac ynni adnewyddadwy alltraeth, sydd wrth gwrs, yn elfen allweddol o gyflawni'r targed sero net. A allwch nodi pa gamau rydych yn eu cymryd i geisio datganoli Ystad y Goron i Gymru, a rhannu eich barn hefyd am ba broses a ddylai fod ar waith i sicrhau, lle mae meysydd y mae Llywodraeth Cymru a’r Senedd yn cytuno y dylid eu datganoli, eu bod yn cael eu datganoli, fel ein bod yn cyflawni dymuniadau democrataidd pobl Cymru?
Yn sicr, Delyth. Cytunaf yn llwyr y dylid datganoli Ystad y Goron i Gymru. Mae'n gwbl warthus ei bod wedi'i datganoli i'r Alban ac nid i ninnau, a bod enillion Ystad y Goron yn mynd yn syth yn ôl i Drysorlys Ei Mawrhydi. Nid ydynt hyd yn oed yn mynd drwy drefniant fformiwla Barnett. Felly, rwy'n sicr wedi ysgrifennu i ddweud ein bod am i Ystad y Goron gael ei datganoli, a'n bod am iddi gael ei datganoli ar yr un sail ag y mae wedi’i datganoli yn yr Alban. Fodd bynnag, yn y cyfamser, ac yn absenoldeb Llywodraeth ar lefel y DU sy’n edrych yn debygol o wneud hynny yn y dyfodol agos, yn y cyfamser, rydym hefyd wedi ceisio datblygu perthynas dda iawn ag Ystad y Goron. Felly, mae Lee Waters a minnau wedi cyfarfod ag Ystad y Goron i drafod y potensial amrywiol yn y môr Celtaidd ac o amgylch arfordir Cymru mewn perthynas â thir Ystad y Goron, ac ar y tir hefyd, mewn gwirionedd. Felly, mae Ystad y Goron yn berchen ar rywfaint o dir yng Nghymru hefyd. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â hwy i sicrhau bod gennym yr un faint o berchnogaeth gymunedol, budd cymunedol, yn yr arwerthiannau y maent yn eu cynnal, er bod yr arian, fel y dywedwch, yn mynd yn ôl i’r Trysorlys. Hyd yn hyn, rydym wedi cael ymateb ymgysylltiol a rhesymol ganddynt, er nad yw hynny'n gwneud y tro yn lle datganoli'r mater i ni, rwy’n cytuno’n llwyr.
Diolch, Weinidog. Edrychaf ymlaen at weld datblygiadau ar hyn wrth i hynny fynd rhagddo.
Roeddwn am godi mater gwahanol gyda chi y prynhawn yma, ond amser cinio heddiw, roedd nifer o'r Aelodau yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol ar aer glân, a chlywsom gyflwyniad pwerus iawn gan rywun o’r enw Rosamund y bu farw ei merch, a oedd yn byw yn Llundain, rwy'n credu, a chanfuwyd bod llygredd aer wedi cyfrannu’n sylweddol nid yn unig at y ffaith ei bod wedi marw, ond hefyd at y rheswm pam fod asthma arni yn y lle cyntaf.
Ymddengys ein bod yn gwybod mwy bob blwyddyn am yr effaith wirioneddol niweidiol y mae llygredd aer yn ei chael ar lefelau dementia hyd yn oed, ond yn sicr ar iechyd plant, ar iechyd anadlol. A allwch roi unrhyw ddiweddariad i ni os gwelwch yn dda ynglŷn â pha amserlen rydych yn ei dilyn er mwyn cyflwyno Deddf aer glân i Gymru?
Lywydd, y Dirprwy Weinidog yw’r Gweinidog sy’n gyfrifol am aer glân, felly tybed a ellid dadfudo ei feicroffon.
Diolch yn fawr iawn.
Diolch am godi eich llaw, Ddirprwy Weinidog.
O, o'r gorau. Iawn.
Ie, fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn aros i ganllawiau diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd ar aer glân gael eu cyhoeddi er mwyn seilio deddf y Senedd ar y safon honno, a dim ond yn ddiweddar y cawsant eu cyhoeddi. Rydym bellach yn cwblhau hynny, ac mae sawl cam o ymgynghori a chynllunio y mae angen iddi fynd drwyddynt i sicrhau ei bod yn gadarn. Ond yn amlwg, nid darpariaeth y gyfraith yw’r unig beth a fydd yn ysgogi cynnydd ar aer glân, ac rydym wedi ymrwymo i weithredu eleni, yn hytrach nag aros i’r ddeddf gael ei chyflwyno.
Felly, er enghraifft, mae aer glân yn elfen allweddol o ganllawiau ein cronfa teithio llesol. Mae hynny, unwaith eto, yn un o'r camau gweithredu sydd gennym o dan strategaeth trafnidiaeth Cymru i newid dulliau teithio, felly mae hynny'n £75 miliwn eleni i annog pobl i gerdded a beicio ar gyfer teithiau byr yn hytrach na defnyddio ceir. Yn yr un modd, mae ein strategaeth fysiau, ac rydym yn gobeithio cyhoeddi Papur Gwyn yn y misoedd nesaf, hefyd yn ymwneud â newid dulliau teithio er mwyn cael llai o geir sy'n llygru ar y ffyrdd. A hefyd, mae ein cynllun gweithredu ceir trydan, yn yr un modd, yn ymwneud â datgarboneiddio’r fflyd geir fel nad oes allyriadau o bibellau mwg, sydd eto’n achosi’r tocsinau peryglus sy’n cael eu rhyddhau ac sy'n lladd pobl.
Felly, rydym wedi ymrwymo i roi cyfres o gamau gweithredu ar waith eleni a’r flwyddyn nesaf i fynd i’r afael ag aer glân, gan weithio ar yr un pryd ar sicrhau Deddf aer glân mor gadarn â phosibl. Nawr, rwyf wedi rhoi'r gwahoddiad i’r grŵp trawsbleidiol, a gwnaf hynny i’r Aelodau eto; rydym am weithio’n drawsbleidiol ar hyn. Yr her rwyf wedi'i gosod i'r grŵp trawsbleidiol yw nodi'r set fwyaf cadarn o fesurau a all ennyn cefnogaeth drawsbleidiol y gallwn ei chyflwyno i'r Senedd yn sgil hynny.
Anghofiais fy rheol fy hun yno; roeddwn yn disgwyl trydydd cwestiwn. Rwy'n ymddiheuro. Cwestiwn 3, Samuel Kurtz.