Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 26 Ionawr 2022.
Mae gan bob lleoliad addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod plant yn cael mynediad at amgylchedd dysgu diogel. Mae diogelwch dysgwyr yn hollbwysig, ac mae ein canllawiau statudol, 'Cadw dysgwyr yn ddiogel', yn nodi'r camau gweithredu a'r disgwyliadau a osodir ar ysgolion i sicrhau diogelwch plant.