Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 26 Ionawr 2022.
Mae Darren Millar yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â hyn, ac mae'n bwnc a drafodais gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn y cyd-destun hwn hefyd. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud teithio llesol i ac o ysgolion mor gyfleus ac mor ddiogel â phosibl i gynifer o ddysgwyr â phosibl, am resymau y gwn y bydd yn eu rhannu. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn amlwg yn darparu ar gyfer y gofynion sylfaenol mewn perthynas â hyn, ac mae'r canllawiau cynllunio yn nodi safonau y disgwylir i lwybrau eu bodloni. Wrth gwrs, fel rhan o hynny, mae argaeledd mannau gollwng a chasglu diogel, er enghraifft, yn ogystal â threfniadau eraill, yn ganolog i hynny. Ond byddaf yn trafod ymhellach gyda'r Dirprwy Weinidog beth arall y gallem ei wneud yn y maes hwn. Rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod maes o law.