Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Efallai ei fod yn gwybod bod y Gweinidog iechyd eisoes wedi comisiynu gwaith er mwyn cloriannu'r polisïau sydd gyda ni ym maes y Gymraeg o fewn y system addysg a gofal cymdeithasol yn barod. Mae'r pwynt mae e'n ei wneud yn bwysig iawn yng nghyd-destun dementia ac mewn cyd-destun ehangach na hynny hefyd. Beth sy'n wir yn bwysig yw ein bod ni'n sicrhau ein bod ni'n gallu darparu gwasanaeth Cymraeg i'r rheini efallai pan fo'r iaith ar ei phwysicaf iddyn nhw. Felly, mae'r sialens mae'r Aelod yn ei ddatgan yn un teilwng iawn ond mae gwaith eisoes ar waith gan y Gweinidog iechyd i gloriannu'r polisïau sydd yn digwydd ar lawr gwlad ar hyn o bryd.