Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch i Rhys ab Owen am hynny. Dwi ddim fy hunan wedi cael trafodaethau ynglŷn â'r sefyllfa benodol honno mae e'n ei disgrifio. Fel rŷch chi'n dweud, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwrando ar y drafodaeth yn astud, rwy'n sicr, a gallaf i gael trafodaethau pellach gyda fe ynglŷn â hyn. Ond dyma yn union pam bod y cynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfyngiadau o ran cyflymder mor bwysig, fel ein bod ni'n diogelu cymaint â phosib o'r cymunedau sydd gyda ni, lle mae'r ysgolion, wrth gwrs, yn cael eu gwarchod. Ond fel mae e'n dweud, mae angen gwneud hynny'n ehangach hefyd.