Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 26 Ionawr 2022.
Mae ganddo'r fantais o fod â'r ddeddfwriaeth o'i flaen gydag adrannau penodol, rwy'n tybio. Ond yn amlwg, lluniwyd y ddeddfwriaeth i weithio law yn llaw gyda'r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol, ac felly mae'r ddwy Ddeddf yn dod at ei gilydd i ddarparu mynediad at y cwricwlwm, a chredaf fod y ffocws ar y pedwar diben a'r cynnydd sy'n sail i'r syniad o'r cwricwlwm yn cynnig yr hyblygrwydd ychwanegol i allu diwallu anghenion pob dysgwr unigol. Rydym wedi gweithio gydag ystod eang o bartneriaid o bob sector addysg, gan gynnwys rhwydwaith o arbenigwyr ADY yn amlwg i ddatblygu fframwaith cwricwlwm rydym yn hyderus ei bod yn gwbl gynhwysol ac yn caniatáu i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, gymryd rhan ynddo, i fwynhau eu dysgu a gwneud cynnydd tuag at y pedwar diben.