Cynwysoldeb

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:56, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, nid yw'r Ddeddf gennyf finnau o fy mlaen ychwaith, ond rwyf o'r farn fod yma gyfle gwych i bob dysgwr—y cwricwlwm newydd yn ogystal â'r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol. Roeddwn eisiau gofyn i chi pa gynlluniau sydd gennych i gyd-leoli pob ysgol arbennig ar safleoedd ysgolion prif ffrwd yn y dyfodol fel y gall pobl ag ADY, o bob lliw a llun, elwa o'r adnoddau ychwanegol a gewch mewn ysgolion prif ffrwd, yn enwedig yn y sector uwchradd, a galluogi'r rhai sydd ag anghenion penodol i gael budd llawn o addysg gron yn unol â'u galluoedd.