Cynwysoldeb

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:57, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn atodol pwysig iawn hwnnw. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni allu cyd-leoli lle bynnag y gallwn a sicrhau bod pob dysgwr yn gallu manteisio ar yr ystod ehangaf o brofiadau, adnoddau a chyfleusterau. Fe fydd hi'n gwybod, drwy'r rhaglen adeiladu ysgolion, y rhaglen adeiladu colegau, rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sydd bellach wedi'i hailenwi'n gymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, fod cyfleoedd yn codi o bryd i'w gilydd i allu darparu, er enghraifft, ar gyfer cyfleusterau anghenion dysgu ychwanegol penodol ar y campws, ochr yn ochr â darpariaeth prif ffrwd. Felly, mae yna gyfleoedd rydym yn awyddus i fanteisio arnynt am y rhesymau y mae hi'n eu hamlinellu yn ei chwestiwn.