Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 26 Ionawr 2022.
Rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi cefnogi prydau ysgol am ddim ers amser maith mewn ysgolion cynradd gwladol, nid yn unig i gefnogi ffermwyr lleol, ond yn bwysicach i mi, i wella iechyd plant a gwella cyrhaeddiad addysgol. Nid yw plant llwglyd yn perfformio'n dda iawn. Ond fy nghwestiwn yw: beth yw'r gwariant cyfalaf amcangyfrifedig sy'n angenrheidiol i gynyddu capasiti ceginau ysgol a neuaddau bwyta? Ac oddeutu faint o staff cegin ychwanegol y bydd eu hangen? Rwy'n gwybod na fydd hyn i gyd yn digwydd mewn blwyddyn, ond os ydych yn gobeithio ei wneud dros y pedair blynedd nesaf, am faint rydych chi'n sôn?