Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 26 Ionawr 2022.
Dyna'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gydag awdurdodau lleol i fapio'r angen mewn perthynas â seilwaith a hefyd mewn perthynas â'r gweithlu, a bydd hynny'n ein galluogi i grisialu'r niferoedd hynny wedyn. Ond mae'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill, ac rydym wedi darparu cyllideb i'n partneriaid awdurdodau lleol i'w cefnogi i weithio gyda ni i wneud hynny.