Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn benodiad y Goron a wneir ar enwebiad y Senedd o dan Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Mae’r Pwyllgor Cyllid, fel y pwyllgor sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig am oruchwylio trefniadau sy’n ymwneud â’r ombwdsmon, wedi chwarae rhan lawn drwy gydol y broses o recriwtio'r ombwdsmon newydd, ac mae manylion llawn am hyn wedi’u hamlinellu yn adroddiad y pwyllgor.