Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ddatgan buddiant fel Aelod o Gyngor Sir Penfro a hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed am roi'r cyfle imi siarad yn y ddadl y prynhawn yma, gan fy mod yn gwybod y bydd o ddiddordeb mawr i lawer o fy etholwyr.
Fel llawer sy'n tyfu i fyny yng nghefn gwlad Cymru, roeddwn yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus anaml a thymhorol, cael fy nghludo gan rieni neu hyd yn oed beicio boed law neu hindda i geisio cyrraedd fy swydd ran-amser pan oeddwn yn dal i fod yn yr ysgol. Felly, nid yw'n fawr o syndod fy mod wedi sefyll fy mhrawf gyrru cyn gynted â phosibl ar fy mhen blwydd yn 17 i roi rhyddid ac annibyniaeth i mi, ac roeddwn yn ffodus i wneud hynny. Fodd bynnag, i lawer o fy etholwyr, mae'r gwasanaeth bws lleol neu'r gwasanaeth trên lleol sydd hyd yn oed yn fyw anaml yn achubiaeth. Boed ar gyfer cymudo i'r gwaith, ymweld â ffrindiau a theulu neu er mwyn mynd i siopa, gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn gyfrannwr mawr i les a safon byw unigolyn, fel y nododd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yn gywir.
Un o'r cyfarfodydd cyntaf a gefais ar ôl fy ethol fis Mai diwethaf oedd un i drafod yr her sy'n wynebu busnesau yn y sector lletygarwch o ran gallu llenwi bylchau cyflogaeth. Un o'r prif wersi a ddysgwyd o'r cyfarfod hwnnw oedd na allai gweithiwr a oedd yn gweithio oriau y tu allan i'r naw awr arferol o naw tan chwech yn Ninbych-y-pysgod, ac eto'n cymudo o Hwlffordd, ddychwelyd adref ar fws, gan fod y gwasanaeth olaf yn gadael cyn iddi dywyllu. Os ystyriwch nifer y swyddi sy'n gwasanaethu'r economi nos a'r diwydiant lletygarwch mewn tref fel Dinbych-y-pysgod, gallwch ddeall faint o her y mae hyn yn ei chreu.
Mae rhai o'r cyflogwyr mwy fel Bluestone ger Arberth wedi dechrau llogi eu cludiant eu hunain i helpu staff i deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith, ond mae'n amlwg nad yw hyn yn opsiwn i'r rhan fwyaf o fusnesau bach. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed pa sgyrsiau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol, megis Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, i helpu i gynorthwyo'r sector lletygarwch i alluogi staff i gymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus y tu allan i'r oriau gwaith mwy traddodiadol.
Hefyd, hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at y gwasanaeth trên yn ne Sir Benfro. Ymunodd fy nghyd-Aelod, Natasha Asghar, â mi yr haf diwethaf i gyfarfod â grŵp o etholwyr yng ngorsaf drenau Dinbych-y-pysgod. Fe wnaethant egluro'r heriau a wynebent wrth deithio ar y brif reilffordd tuag at ddwyrain Cymru, a mynegwyd pryderon ynghylch capasiti'r trenau a'r amserlennu. Tynnodd y grŵp sylw hefyd at y problemau a wynebir wrth deithio ar drên rhwng de a chanolbarth Sir Benfro. Byddai'r daith gymudo syml 20 milltir, 30 munud mewn car o Hwlffordd i Ddinbych-y-pysgod ar fore o'r wythnos yn cymryd dwy awr a 15 munud ar y trên, neu dros awr a hanner ar fws yn y bore. A hynny i rai nad ydynt angen amser teithio ychwanegol i gyrraedd Hwlffordd yn y lle cyntaf.
Yn ôl yn yr hydref, cyhoeddwyd cynlluniau gan y Dirprwy Weinidog i wella seilwaith a chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus Cymru, gyda newyddion am welliannau i orsafoedd yn Hwlffordd, Aberdaugleddau a Hendy-gwyn ar Daf, yn ogystal ag awydd i ychwanegu capasiti ar lwybr Caerfyrddin i Aberdaugleddau. Er bod hyn yn newyddion gwych i Paul Davies yn yr etholaeth sy'n ffinio â fy etholaeth i, mae'n ymddangos bod y llwybr rhwng Doc Penfro a Hendy-gwyn ar Daf wedi'i anghofio. Y rheswm pam rwy'n canolbwyntio ar Ddinbych-y-pysgod y prynhawn yma yw am mai gorsaf drenau'r fan honno yw'r brysuraf yn Sir Benfro a dyna'r porth i un o'n cyrchfannau glan môr gorau. Ar yr un rheilffordd mae Doc Penfro, lleoliad allweddol i deithwyr sy'n teithio i ac o Iwerddon, ac eto ni fydd y rhain a gorsafoedd llai eraill ar hyd llwybr rheilffordd de Sir Benfro yn gweld unrhyw fanteision o sylwedd o'r buddsoddiad ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog.
Mae system drafnidiaeth gydgysylltiedig ledled Cymru yn arf hanfodol yn ein brwydr yn erbyn newid hinsawdd, ond cyn annog pobl allan o'u ceir, rhaid cael rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus barod sy'n gallu cyflawni ar gyfer anghenion y bobl. Fel yr esboniais, mae teithio rhwng gogledd a de Sir Benfro ar drafnidiaeth gyhoeddus yn heriol dros ben. Mae'n bwysig i economi'r sir fod de Sir Benfro yn cael ei thrin yn gyfartal â gogledd Sir Benfro wrth ddatblygu metro gorllewin Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod y cynlluniau wedi anwybyddu'r Sir Benfro sy'n bodoli i'r de o Afon Cleddau.
Yfory, rwy'n cynnal cyfarfod bord gron gyda chynghorwyr a sefydliadau lleol i ystyried cryfder y teimlad ynghylch gwasanaethau trên i wasanaethu eu cymunedau. Yn dilyn y ddadl heddiw, Ddirprwy Weinidog, byddai'n wych pe gallwn fynd â neges yn ôl gennych chi nad yw Llywodraeth Cymru wedi anghofio am dde Sir Benfro ac y bydd yn darparu'r cymorth a'r cyllid nid yn unig i uwchraddio'r cyfleusterau, ond hefyd i gynyddu amlder gwasanaethau sy'n defnyddio'r rheilffordd hon. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol yn cysylltu ein cymunedau gwledig ac yn lleihau ein hôl troed carbon. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni'r nodau hyn, rhaid i'r gwasanaethau ymateb i anghenion teithwyr. Diolch yn fawr.