Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch i James Evans am gyflwyno'r ddadl yma. Dwi'n falch o weld y drafodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau, ar ôl fy nadl yr wythnos diwethaf. Maen fater hollbwysig am nifer o resymau, ac yn hollbwysig i'r cymunedau hynny rydw i'n eu cynrychioli yma yn y Senedd. Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog hefyd am ei ymateb i fy nadl yr wythnos diwethaf, ac am gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnig y Democratiaid Rhyddfrydol i gyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob person ifanc o dan 25.