7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Effaith COVID ar addysg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:38, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Mae’r pandemig a chau ysgolion yn sgil hynny wedi cael effaith ddinistriol ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae rhieni wedi dweud bod meddwl am hunanladdiad, hunan-niweidio, anhwylderau bwyta, ymarfer corff gormodol a gorbryder wedi dechrau ymhlith plant a phobl ifanc o ganlyniad i ansicrwydd ynglŷn â bywyd ysgol, gwaith ysgol, arholiadau ac ofn yn ystod y pandemig. Bellach, mae angen cymorth iechyd meddwl proffesiynol ar blant ond cânt eu rhwystro gan restrau aros hir am apwyntiadau gyda gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed. Gwyddom fod y data’n dangos bod yr amseroedd aros yn rhy hir o lawer.

Felly, heddiw, hoffwn ofyn i bob un ohonom anghofio unrhyw bwyntiau gwleidyddol y gallai’r cynnig gwreiddiol a gwelliant y Llywodraeth fod yn ceisio'u sgorio, ac uno y tu ôl i welliannau Plaid Cymru sy’n cydnabod yr argyfwng ac yn ymrwymo pob un ohonom i gydweithio i ddod o hyd i atebion yn y tymor byr ac yn hirdymor i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc.