Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 26 Ionawr 2022.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Fel rhiant, rwy'n gwbl ymwybodol o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar genedlaethau iau, ond diolch byth, mae fy mab yn ddigon ifanc i beidio â bod wedi dioddef unrhyw niwed mawr i'w addysg. Ond nid yw plant hŷn a phobl ifanc mor ffodus â hynny. Fel rhieni, rydym bob amser yn poeni am ddyfodol ein plant, ond mae'r pandemig wedi gwaethygu'r pryder hwnnw'n helaeth. Er bod plant ifanc yn llai tebygol o ddal neu ledaenu COVID, a bod y plant sy'n dal y feirws yn fwy tebygol o fod heb symptomau, mynnodd Llywodraethau gau ysgolion am gyfnodau hir, cafodd arholiadau eu canslo a dysgu wedi'i gyfyngu, gan darfu ar addysg a datblygiad plant ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau ifanc.
Er bod rhywfaint o gyfiawnhad dros fesurau o'r fath ddwy flynedd yn ôl pan nad oeddem yn gwybod fawr ddim am COVID, nid oes unrhyw gyfiawnhad dros hynny erbyn hyn. Mor gynnar â mis Gorffennaf 2020, roedd astudiaethau meddygol yn dangos bod plant yn llawer llai tebygol o gael eu heintio nag oedolion. Pan fyddent yn dal COVID, roeddent yn fwy tebygol o gael haint llai difrifol yn y system anadlu uchaf, heb ledaenu llawer o'r feirws. Parhaodd y data i dyfu wrth i fwy a mwy o astudiaethau gael eu cynnal, ac erbyn canol y llynedd, roedd y dystiolaeth yn glir nad yw plant dan 10 oed yn fectorau sy'n lledaenu COVID.
I blant hŷn a phobl ifanc, roedd y sefyllfa'n fwy cymysglyd. Er y gallant ledaenu COVID, maent yn fwy tebygol o fod yn asymptomatig, ac eto fe wnaethom barhau i gau ysgolion i atal plant rhag lledaenu'r feirws, heb fawr o sylw i'r effaith roedd hyn yn ei chael ar eu datblygiad. Er bod y rhai mwyaf agored i’r clefyd eisoes wedi cael eu brechu, collodd ein plant draean o’u haddysg yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, wrth i Lywodraeth Cymru barhau i orymateb i’r pandemig. Bydd eu methiannau a’u diffyg arweiniad wedi gwneud cryn dipyn o niwed i genhedlaeth gyfan o blant a phobl ifanc.
Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu cynllun ar gyfer ysgolion, ond yn hytrach na gadael i ysgolion fynd yn ôl i fel roeddent cyn y pandemig, maent wedi penderfynu petruso, oedi a thaflu'r baich. Cafwyd ansicrwydd pellach yn lle'r eglurder y mae rhieni a phlant ei eisiau a'i angen. Gellir crynhoi eu datganiad fel hyn: 'Bydd pethau'n parhau fel y maent am y tair wythnos nesaf a byddwn yn taflu'r baich ar ysgolion ac awdurdodau addysg; gallant hwy benderfynu pa gyfyngiadau sy'n angenrheidiol'. Nid oes amheuaeth pa benderfyniad sy’n rhaid ei wneud. Mae'n rhaid cael gwared ar yr holl gyfyngiadau'n gyfan gwbl, ac mae'n hen bryd inni ddysgu byw gyda'r feirws hwn.
Mewn tymor ffliw gwael, yn anffodus gwelwn gymaint o farwolaethau ag y gwnawn gyda COVID, ond nid ydym yn mynd i banig ac yn cau ysgolion, yn gorfodi plant i eistedd mewn ystafelloedd dosbarth rhewllyd neu sefyll y tu allan yn y glaw am awr. Mae'n bryd rhoi diwedd ar gyfyngiadau diangen ac annheg, mae'n bryd i addysg ein plant fynd yn ôl i normal ac mae'n bryd rhoi'r gorau i orymateb. Diolch.