Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 26 Ionawr 2022.
Rwy'n dychmygu bod y rhan fwyaf ohonom sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon wedi treulio cryn dipyn o amser yn cerdded strydoedd ein hardaloedd, yn curo ar ddrysau ac yn siarad gwleidyddiaeth â dieithriaid. Mae'n un agwedd ar fod yn aelod o blaid wleidyddol rwy'n ei mwynhau'n fawr. O bryd i'w gilydd, gall wneud i chi deimlo braidd yn ddiobaith pan ddowch ar draws rhywun nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Nid ydynt yn ystyried pleidleisio o gwbl am na allant weld sut y gall gwleidyddiaeth effeithio ar eu bywydau. Ar adeg pan ddylem wneud popeth yn ein gallu i ymgysylltu â phobl a'u hannog i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, dyma rywbeth a allai wneud y gwaith yn llawer anos drwy amddifadu cannoedd o filoedd o bobl o bleidlais.
Mae'r rhesymeg dybiedig sy'n sail i'r Bil, yr angen i leihau twyll pleidleiswyr, yn eithriadol o annoeth a diangen ar y gorau. Ar ei gwaethaf, mae'n ymgais amlwg i wrthod pleidlais i bobl sydd efallai'n fwy tebygol o bleidleisio yn erbyn y Torïaid a'u polisïau. Pam y dywedaf nad oes sail i'r Bil hwn? Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, cafwyd cyfanswm o dri erlyniad am dwyll pleidleisio ledled y DU. Fe wnaf ailadrodd hynny: tri erlyniad mewn wyth mlynedd. Mae Boris Johnson wedi cael mwy o bartïon sy'n groes i'r cyfyngiadau symud na hynny yn ystod y pandemig. Yn lle'r Bil hwn, efallai y dylem fod yn cyflwyno Bil sy'n cwtogi ar weithgareddau anghyfreithlon honedig y Prif Weinidog diegwyddor hwn.
Beth bynnag, fel llefarydd Plaid Cymru dros bobl hŷn, rwy'n arbennig o bryderus ynghylch yr effaith y bydd y Bil hwn yn ei chael ar bobl hŷn. Bydd hanner y bobl yr effeithir arnynt dros 50 oed, gyda mwy nag un o bob 25 o bobl dros 50 oed heb fathau derbyniol o ddulliau adnabod. Mae'r duedd i symud gwasanaethau ar-lein hefyd yn berthnasol i gardiau adnabod. Yn 2016, canfu Age UK fod mwy na chwarter y bobl rhwng 65 a 74 oed heb fod yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd. Mae'r ffigur yn codi i bron i ddwy ran o dair o bobl dros 75 oed. Mae allgáu digidol ymhlith pobl hŷn yn broblem go iawn, ac yn awr gallai olygu nad fyddant yn cael pleidleisio. Rwy'n gobeithio y bydd y rheini sydd o blaid y Bil hwn yn y Senedd hon yn ystyried y pwynt hwnnw'n ofalus cyn iddynt fwrw eu pleidlais y prynhawn yma. Diolch yn fawr.