Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 26 Ionawr 2022.
Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, mae ein democratiaeth wedi'i hadeiladu ar sylfaen o etholiadau teg, agored a hygyrch. Ein swyddogaeth yn y Senedd yw grymuso pobl Cymru, ac yn eu tro, rydym ni fel eu cynrychiolwyr etholedig yn cael ein grymuso gan y ffydd y maent yn ei rhoi ynom yn y blwch pleidleisio. Gwn y bydd llawer o Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon wedi ymuno â mi i fanteisio ar gyfleoedd i gyfarfod â disgyblion ysgol yn ein hetholaethau, a thrafod gyda hwy pa mor bwysig yw pleidleisio a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ar adeg etholiad. Gwnawn hyn oherwydd bod annog cyfranogiad yn ein democratiaeth yn ganolog i'n rôl fel cynrychiolwyr etholedig. Democratiaeth iach yw un lle mae'r etholwyr yn teimlo y gallant ymwneud â hi, un sydd mor dryloyw â phosibl ac yn rhydd o rwystrau diangen i gyfranogiad. Er ein bod wedi gweld yn yr wythnosau diwethaf nad yw tryloywder yn uchel ar restr blaenoriaethau'r Llywodraeth Dorïaidd, mae'r Bil Etholiadau yn brawf nad yw annog pobl i gymryd rhan yn ein prosesau democrataidd yn uchel ar y rhestr honno ychwaith.
Nid oes sail dystiolaethol i gyflwyno llun adnabod gorfodol ar gyfer pleidleisio. Mae'n datrys problem nad yw'n bodoli ar raddfa sy'n agos at fod yn angenrheidiol i ddylanwadu ar etholiad, a hynny ar gost eithriadol. Yr hyn a wyddom, fodd bynnag, yw y bydd yn gwneud pleidleisio'n llai hygyrch, yn enwedig i'r rhai o gymunedau difreintiedig. Mae'n ffaith bod y rhai lleiaf tebygol o fod â dull adnabod ffotograffig yn dod o aelwydydd tlotach. Ni ddylid byth ystyried ei bod yn dderbyniol gosod rhwystrau artiffisial i gyfranogiad sy'n effeithio'n anghymesur ar rai cymunedau. Mae'n peri pryder mawr imi glywed y rheini ar feinciau'r Ceidwadwyr yn amddiffyn cam o'r fath, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod gennym Lywodraeth Lafur Cymru, a Chwnsler Cyffredinol yn enwedig sy'n ymroddedig i ddiogelu hawliau democrataidd holl bobl Cymru. Hyderaf y bydd yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i ddwyn y pryderon hyn i sylw Llywodraeth y DU. Nid oes gennyf amheuaeth nad yw'r Bil Etholiadau yn bygwth lefelau cyfranogiad ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru. Dylai Aelodau yma yn y Senedd ac yn San Steffan, o bob plaid wleidyddol, ganolbwyntio eu hegni ar ysbrydoli pob darpar bleidleisiwr i gymryd rhan yn ein democratiaeth, yn hytrach na chreu ffyrdd o'u cymell i beidio â gwneud hynny. Diolch yn fawr.