Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 26 Ionawr 2022.
Pleidleisio yw sylfaen ein democratiaeth, Ddirprwy Lywydd. Dyna lle mae posibiliadau eithriadol yn dod yn realiti drwy osod croes mewn bocs. Mae wedi arwain at sefydlu'r gwasanaeth iechyd gwladol, at greu'r wladwriaeth les a sefydlu ein Senedd genedlaethol. Y blwch pleidleisio yw lle y daw breuddwydion a dyheadau'n wir. Dyna lle y gwneir penderfyniadau am ddyfodol ein gwledydd gan eu dinasyddion. Dyna hefyd yw'r offeryn mwyaf effeithiol i'n dwyn ni i gyfrif fel gwleidyddion.