8. Dadl Plaid Cymru: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 5:13, 26 Ionawr 2022

Mae angen craffu manwl iawn i ddigwydd cyn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau ar yr hawl i bleidleisio, fel cyflwyno ID. Mae eisiau tystiolaeth gadarn sydd wedi ei dadansoddi yn ofalus. Yn sicr, does dim lle i ideoleg ddylanwadu ar unrhyw benderfyniadau. Bydd y Torïaid yn ceisio portreadu hyn fel penderfyniad rhesymol, ond, wrth annerch rheithgor mewn llys barn, byddwn i wastad yn dweud wrthynt i edrych ar y dystiolaeth yn ei chyfarwydd.