Cam-drin a Chamfanteisio Rhywiol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 1 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae gwasanaeth ymosodiadau rhywiol Cymru yn cael ei arwain gan y GIG, gan weithio gyda'r heddlu, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau arbenigol yn y trydydd sector. Gyda'i gilydd, eu nod yw atal cam-drin rhywiol a chamfanteisio ar blant, amddiffyn dioddefwyr sy'n blant a chynorthwyo plant sydd wedi cael eu cam-drin i wella.