1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Chwefror 2022.
1. Pa gymorth sydd ar gael i blant sydd wedi dioddef cam-drin a chamfanteisio rhywiol? OQ57540
Llywydd, mae gwasanaeth ymosodiadau rhywiol Cymru yn cael ei arwain gan y GIG, gan weithio gyda'r heddlu, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau arbenigol yn y trydydd sector. Gyda'i gilydd, eu nod yw atal cam-drin rhywiol a chamfanteisio ar blant, amddiffyn dioddefwyr sy'n blant a chynorthwyo plant sydd wedi cael eu cam-drin i wella.
Mae cam-drin plant yn rhywiol yn cael effeithiau pellgyrhaeddol a hirhoedlog ar iechyd corfforol a meddyliol. Gall plant sydd wedi dioddef trawma lluosog ddatblygu anhwylder straen wedi trawma, iselder a gorbryder. Yn ystod chwe mis cyntaf 2021-22, bu cynnydd o 65 y cant i nifer atgyfeiriadau cam-drin rhywiol a chamfanteisio ar blant y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, o'i gymharu â'r un cyfnod o chwe mis yn ystod y flwyddyn flaenorol. Disgwylir i gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar atal a mynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol ddod i ben yn ystod haf eleni. Gyda'r wybodaeth y gall plant sy'n cael y cymorth cywir wella heb effeithiau hirdymor, mae angen i ni gadw'r momentwm i fynd a blaenoriaethu argaeledd gwasanaethau cam-drin rhywiol arbenigol integredig sy'n canolbwyntio ar y plentyn i blant. Mae'r Lighthouse yng ngogledd Llundain yn un enghraifft lwyddiannus o fodel Tŷ Plant, yn seiliedig ar y Barnahus yng Ngwlad yr Iâ, a dyma'r unig wasanaeth cymorth cam-drin a chamfanteisio ar blant amlasiantaeth o'i fath yn y DU. A wnaiff y Prif Weinidog werthuso gwasanaeth y Lighthouse a chan ddefnyddio'r dystiolaeth, ystyried darparu'r un gwasanaeth i blant yng Nghymru?
Wel, Llywydd, diolchaf i Buffy Williams am y pwyntiau pwysig yna a'r cwestiwn ychwanegol yna. Mae adroddiad interim gwasanaeth y Lighthouse ar gael, ond ni fydd yr adroddiad gwerthuso terfynol ar gael tan yn ddiweddarach eleni. Edrychwn ymlaen, wrth gwrs, at weld beth mae'r gwerthusiad hwnnw yn ei ddweud. Cynsail sylfaenol model y Lighthouse yw ei bod hi'n well dod â gwasanaethau i blant yn hytrach na bod plant yn gorfod ymweld â nifer o leoliadau i gael gwasanaethau, ac yn amlwg mae llawer i'w ddweud dros hynny.
Mae'n ymddangos yn annhebygol i mi mai codi model o ran hynod drefol o Lundain—mae pum bwrdeistref yn Llundain yn cyfrannu at wasanaeth y Lighthouse—a'i ollwng yn syml yng Nghymru yw'r ateb cyflawn. Yn yr adroddiad interim, Llywydd, roedd yn dweud bod 29 o atgyfeiriadau y mis ar gyfartaledd o'r pum bwrdeistref yn Llundain i'r gwasanaeth hwnnw. Yng Nghymru, mae gan wasanaethau'r gogledd a'r de rhyngddyn nhw gyfartaledd o ychydig dros 19 o atgyfeiriadau'r mis, a fyddai, i bob pwrpas, yn golygu y byddai un ganolfan ar gyfer Cymru gyfan, ac ni fyddai hynny yn cyd-fynd â'r syniad sylfaenol ei fod yn fwy cyfleus i bobl ifanc. Felly, rwy'n credu, yn ogystal â dysgu gwersi gwasanaeth y Lighthouse a'i lwyddiant, bod yn rhaid i ni ddatblygu model prif ganolfan a lloerennau yma yng Nghymru, lle ceir gwasanaethau arbenigol i blant sydd yn y sefyllfa ofnadwy honno ond lle ceir gwasanaethau hefyd yn nes at eu cartrefi eu hunain, sy'n gallu darparu'r math o gymorth a amlinellais yn fy ateb gwreiddiol.
Gareth Davies.
Diolch, Llywydd, ac mae'n wych bod yn ôl yn y Siambr. Prif Weinidog, yn anffodus, mae'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yng Nghymru yn parhau i fod yn druenus o annigonol ac rydym ni'n siomi ein dioddefwyr. Ac er ein bod ni'n gwella, mae gennym ni gryn dipyn i'w wneud o hyd. Mae gan gymorth trawma restrau aros mor hir fel nad oes pwynt iddo fod yno bron. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno, ochr yn ochr â'r cymorth o'r radd flaenaf, y dylem ni hefyd fod yn gwneud mwy o ymdrech i atal? A wnewch chi sicrhau bod pob gwasanaeth plant yn mabwysiadu dull gweithredu ar sail trawma, fel y maen nhw yn yr Alban?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno, wrth gwrs, y bydd hi bob amser yn llawer gwell, yn enwedig mewn maes fel hwn, atal niwed rhag digwydd na cheisio helpu plant i ymdopi â chanlyniadau niwed. Rwy'n credu y byddai cwestiwn yr Aelod yn fwy defnyddiol pe bai'n dibynnu llawer iawn llai ar haeru ac yn rhoi ychydig mwy o dystiolaeth i ategu'r hyn yr oedd ganddo i'w ddweud, oherwydd ni chlywais unrhyw dystiolaeth o gwbl yn rhan gyntaf ei gwestiwn atodol, dim ond cyfres o haeriadau heb dystiolaeth.
O ran arferion ar sail trawma, wel, wrth gwrs, mae gennym ni'r rhaglen digwyddiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a sefydlwyd gan fy nghyn gyd-Aelod Carl Sargeant, sydd wedi gwneud cymaint yng Nghymru i wneud yn siŵr bod gweithwyr rheng flaen ym maes amddiffyn plant, ond yn llawer mwy na hynny, ym maes tai, ac ym maes iechyd, ac mewn gwasanaethau rheng flaen eraill, yn dilyn y dull o weithredu hwnnw ar sail trawma o ymdrin â'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Felly, ar y pwyntiau sylweddol y mae'r Aelod yn eu gwneud—atal ar y naill law, arfer ar sail trawma ar y llaw arall—rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd y prynhawn yma.