Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 1 Chwefror 2022.
Diolch, Llywydd, ac mae'n wych bod yn ôl yn y Siambr. Prif Weinidog, yn anffodus, mae'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yng Nghymru yn parhau i fod yn druenus o annigonol ac rydym ni'n siomi ein dioddefwyr. Ac er ein bod ni'n gwella, mae gennym ni gryn dipyn i'w wneud o hyd. Mae gan gymorth trawma restrau aros mor hir fel nad oes pwynt iddo fod yno bron. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno, ochr yn ochr â'r cymorth o'r radd flaenaf, y dylem ni hefyd fod yn gwneud mwy o ymdrech i atal? A wnewch chi sicrhau bod pob gwasanaeth plant yn mabwysiadu dull gweithredu ar sail trawma, fel y maen nhw yn yr Alban?