Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 1 Chwefror 2022.
Prif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich atebion i'r cwestiynau pwysig hyn am seilwaith rheilffyrdd yn y gogledd? Y ffordd fwyaf syml o fynd i'r afael â thanariannu hanesyddol, wrth gwrs, fyddai datganoli cyfrifoldebau a chyllid priodol i Lywodraeth Cymru, ac rydym ni'n dal i aros am gyllid Llywodraeth y DU i wella ein rheilffyrdd yn y gogledd. Ond, Prif Weinidog, a allwch chi ein sicrhau ni bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn awyddus i fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd a chyfleusterau rheilffyrdd lle a phryd y gall wneud hynny, boed hynny'n orsafoedd rheilffordd segur neu drwy gymorth i grwpiau hynod bwysig, fel Cyfeillion Gorsaf y Waun, Cyfeillion Gorsaf Rhiwabon yn fy etholaeth i?