1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Chwefror 2022.
2. Pa sgyrsiau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru? OQ57560
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Gweinidogion Cymru yn manteisio ar bob cyfle i godi gyda Llywodraeth y DU eu hesgeulustod cywilyddus o fuddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru.
Diolch. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn buddsoddi ychydig o dan £100 biliwn mewn seilwaith rheilffyrdd HS2. Pe bai fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio, dylai Cymru fod â hawl i gyfran poblogaeth o 5 y cant, sy'n £5 biliwn. Bydd yr Alban yn derbyn £10 biliwn. Ond gan fod Llywodraeth y DU yn dweud bod y rheilffordd o Lundain i Birmingham yn mynd i fod o fudd i Gymru, dydyn ni'n cael dim. Ar ben hyn, gwnaed cais i Lywodraeth y DU am gyllid codi'r gwastad i'w fuddsoddi ar reilffordd Wrecsam-Bidston, y mae ei angen yn daer, ond, eto, methodd Llywodraeth y DU â darparu buddsoddiad, a bydd yn cymryd amser ac adnoddau sylweddol i'r awdurdod lleol wneud cais eto. Y cwbl yr ydym ni'n gofyn amdano yw bod Cymru yn cael ei thrin yn deg. Prif Weinidog, mae pobl yn y gogledd yn haeddu eu cyfran deg o fuddsoddiad yn y rhwydwaith rheilffyrdd—mae'n hanfodol. Beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod hyn yn digwydd? Diolch.
Llywydd, fel y dywedodd yr Aelod, mae Cymru yn cael ei thrin yn unrhyw beth ond teg o ran buddsoddiad mewn rheilffyrdd gan Lywodraeth y DU. Yn ystod yr adolygiad cynhwysfawr diwethaf o wariant, yn fympwyol, lleihaodd y Trysorlys y ffactor cymharedd o dan Barnett ar gyfer yr adran drafnidiaeth yn Lloegr o 89 y cant i 36 y cant, sy'n golygu, fel y dywedodd yr Aelod, bod Cymru ar ei cholled o werth biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad. Mae'n hurt—yn hollol hurt—i honni, oherwydd bod gwasanaeth newydd o Lundain i Birmingham, bod hynny rywsut yn golygu bod Cymru wedi cael ei chyfran deg o'r buddsoddiad hwnnw. Daeth y Pwyllgor Materion Cymreig ym mis Rhagfyr 2020, dan gadeiryddiaeth Aelod Seneddol Ceidwadol, gyda mwyafrif o Aelodau Seneddol Ceidwadol ar y pwyllgor hwnnw, i'r casgliad y dylid ailddosbarthu HS2 fel prosiect Lloegr yn unig. A phe bai hynny'n wir, yna wrth gwrs byddai Cymru yn cael y £5 biliwn y mae Carolyn Thomas wedi cyfeirio ato. Bydd gan yr Alban, lle derbynnir cymharedd, £10 biliwn i'w fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd yn yr Alban, y mae pob ceiniog ohono yn cael ei wrthod yma i Gymru.
Ac mae hynny i gyd yn dod ar ben degawd o esgeuluso buddsoddiad yn y seilwaith yma yng Nghymru. Rydych chi wedi clywed y ffigurau yma o'r blaen—mae 2 y cant o'r rheilffordd yng Nghymru wedi'i thrydaneiddio. A ydych chi'n gwybod faint mae hynny yn ei olygu, Llywydd? Mae dwy filltir ar hugain—22 filltir o'r rheilffordd yng Nghymru wedi'i thrydaneiddio. Mae'n druenus, ac mae'n ganlyniad uniongyrchol i dorri addewidion gan y blaid gyferbyn. Mae pethau y gallen nhw eu gwneud, mae pethau y dylen nhw eu gwneud. Mae Llywodraeth Cymru, ar y llaw arall, Llywydd, yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd yn y gogledd. Eleni, byddwn yn cynyddu gwasanaethau ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn darparu gwasanaethau newydd rhwng Lerpwl a Llandudno. A'r flwyddyn ar ôl hynny, bydd gwasanaethau newydd o'r gogledd i Gaerdydd. Tra bod Llywodraeth y DU yn trin Cymru yn ddirmygus pan ddaw i fuddsoddi yn y rheilffyrdd, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi yn y gogledd ac yng ngweddill Cymru.
Prif Weinidog, rwyf innau hefyd eisiau gweld mwy o fuddsoddiad gan Lywodraethau'r DU a Chymru yn y gogledd yn y seilwaith rheilffyrdd. Un o'r pethau yr hoffwn ei weld yn fawr yn fy etholaeth i yw arhosfa drenau newydd yn ardal Tywyn a Bae Cinmel. Byddwch yn ymwybodol pa mor boblogaidd yw ardal Tywyn a Bae Cinmel fel cyrchfan: 50,000 o leoedd gwely mewn carafanau gwyliau, ac mae'n rhaid i lawer o'r bobl hynny neidio oddi ar y trên yn y Rhyl neu yn Abergele er mwyn neidio i mewn i gar wedyn i gyrraedd y man lle maen nhw eisiau cyrraedd. Nawr, os ydym ni eisiau newid dulliau teithio, os ydym ni'n mynd i ostwng yr allyriadau carbon mewn trafnidiaeth a chynnig dewis gwirioneddol i bobl gyrraedd eu cyrchfannau, yna byddai gorsaf newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y gymuned honno. Roedd un ers talwm; fe'i caewyd flynyddoedd lawer yn ôl. Mae'n bryd ei hailsefydlu ac ailfywiogi trafnidiaeth rheilffyrdd yn fy etholaeth.
Wel, Llywydd, nid wyf i'n amau am eiliad bod yr Aelod eisiau gweld buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau yn ei etholaeth ei hun. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i wneud cais i gronfa y DU i ailsefydlu gorsafoedd lle cawsant eu cau, ac, yn wir, cawsom un canlyniad cadarnhaol allan o'r rhaglen honno pan benderfynwyd ddiwethaf: gorsaf newydd yn Sanclêr yn sir Gaerfyrddin, yr wyf i, mae arnaf ofn, yn ei chofio yn cael ei hagor cyn iddi gael ei chau flynyddoedd lawer yn ôl. A dywedaf hyn wrth yr Aelod, y byddai Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i weithio gydag ef a buddiannau lleol eraill i wneud y ddadl dros orsaf yn ardal Tywyn a Bae Cinmel, ac yna bydd yn rhaid i ni gyflwyno honno i Lywodraeth y DU a gobeithio am y gorau.
Prif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich atebion i'r cwestiynau pwysig hyn am seilwaith rheilffyrdd yn y gogledd? Y ffordd fwyaf syml o fynd i'r afael â thanariannu hanesyddol, wrth gwrs, fyddai datganoli cyfrifoldebau a chyllid priodol i Lywodraeth Cymru, ac rydym ni'n dal i aros am gyllid Llywodraeth y DU i wella ein rheilffyrdd yn y gogledd. Ond, Prif Weinidog, a allwch chi ein sicrhau ni bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn awyddus i fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd a chyfleusterau rheilffyrdd lle a phryd y gall wneud hynny, boed hynny'n orsafoedd rheilffordd segur neu drwy gymorth i grwpiau hynod bwysig, fel Cyfeillion Gorsaf y Waun, Cyfeillion Gorsaf Rhiwabon yn fy etholaeth i?
Wel, Llywydd, daeth yr adolygiad cysylltedd yr undeb a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i'r casgliad bod datganoli wedi bod yn dda i drafnidiaeth—pan wnaed y penderfyniadau yn nes at ble y bydden nhw'n cael eu heffaith, gwnaed penderfyniadau gwell. Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r ddadl y mae Llywodraethau Cymru olynol wedi ei gwneud dros ddatganoli cyfrifoldeb dros reilffyrdd i'r Senedd, ynghyd fodd bynnag, fel y dywedodd Ken Skates, â'r cyllid y mae angen iddo fynd ochr yn ochr â'r cyfrifoldeb hwnnw. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i barhau i fuddsoddi yn y ffordd y mae Ken Skates wedi'i hamlinellu, Llywydd. Rwyf i wedi cael cyfle i ymweld â gorsaf Rhiwabon gydag ef ac i weld y gwaith gwych y mae cyfeillion yr orsaf yn ei wneud yno i'w chynnal a'i gwneud yn lle mor ddeniadol i ymweld ag ef. I Trafnidiaeth Cymru, mae gwelliannau pellach yn Rhiwabon yn parhau i fod yn flaenoriaeth: peiriant gwerthu tocynnau newydd, atebion tocynnau cerdyn clyfar i wneud yn siŵr y gellir defnyddio'r orsaf mor aml â phosibl, oherwydd ei bod yn cyfrannu at ein hagenda teithio llesol ac oherwydd ei bod yn borth i'r diwydiant twristiaeth yn y rhan honno o Gymru gyda phopeth sydd ganddi i'w gynnig.