Dydd Gŵyl Dewi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 1 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:21, 1 Chwefror 2022

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Braf yw clywed y gwaith sy'n digwydd gyda'r Cymry ar wasgar. Mae'n ffordd arbennig i gynyddu proffil Cymru ledled y byd. Ond siom, er nid syndod, oedd darllen unwaith eto fod Llywodraeth San Steffan yn gwrthod creu gŵyl y banc ar ŵyl ein nawddsant, ond, wrth gwrs, nid dim ond y Torïaid sydd wedi ei wrthod; gwnaeth Llywodraeth Lafur ei wrthod nôl yn 2002, wedi cais gan y Cynulliad. Mae'n braf gweld cefnogaeth ar draws y pleidiau yma o blaid creu Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc, a mawr obeithiaf fod hwn yn gallu bod yn rhan o'r chweched Senedd, ein bod ni'n creu'r gefnogaeth trawsbleidiol honno. A wnaiff y Prif Weinidog annog cynghorau eraill, fel Cyngor Gwynedd, fel Cyngor Tref Aberystwyth, i roi diwrnod o wyliau i'w staff ar Ŵyl Dydd Dewi, ac ydy'r Prif Weinidog wedi siarad gyda'r Blaid Lafur yn San Steffan a chael ar ddeall fyddan nhw ddim yn gwrthod cais o'r lle hwn unwaith eto? Diolch yn fawr.