1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Chwefror 2022.
7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi? OQ57549
Llywydd, diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Byddwn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yma a thramor, gan fanteisio ar ein diwrnod cenedlaethol i godi proffil ac ymwybyddiaeth o Gymru ar draws y byd. Bydd fy amserlen i fy hun ar Ddydd Gŵyl Dewi yn cynnwys digwyddiadau rhithiol yn Japan a’r Almaen, a chyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda chynrychiolwyr o Quebec, Canada a phartneriaid allweddol o Ewrop.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Braf yw clywed y gwaith sy'n digwydd gyda'r Cymry ar wasgar. Mae'n ffordd arbennig i gynyddu proffil Cymru ledled y byd. Ond siom, er nid syndod, oedd darllen unwaith eto fod Llywodraeth San Steffan yn gwrthod creu gŵyl y banc ar ŵyl ein nawddsant, ond, wrth gwrs, nid dim ond y Torïaid sydd wedi ei wrthod; gwnaeth Llywodraeth Lafur ei wrthod nôl yn 2002, wedi cais gan y Cynulliad. Mae'n braf gweld cefnogaeth ar draws y pleidiau yma o blaid creu Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc, a mawr obeithiaf fod hwn yn gallu bod yn rhan o'r chweched Senedd, ein bod ni'n creu'r gefnogaeth trawsbleidiol honno. A wnaiff y Prif Weinidog annog cynghorau eraill, fel Cyngor Gwynedd, fel Cyngor Tref Aberystwyth, i roi diwrnod o wyliau i'w staff ar Ŵyl Dydd Dewi, ac ydy'r Prif Weinidog wedi siarad gyda'r Blaid Lafur yn San Steffan a chael ar ddeall fyddan nhw ddim yn gwrthod cais o'r lle hwn unwaith eto? Diolch yn fawr.
Wel, Llywydd, beth dwi eisiau ei weld yw'r cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo i'r Senedd i ni fan hyn gael y cyfle i ddeddfu i gael Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl y banc. Yn nwylo'r Senedd, dwi'n meddwl, byddai'r lle gorau i gael y penderfyniadau yna. Maen nhw gyda'r bobl yn Lloegr, yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon yn barod. Dim ond yma yng Nghymru allwn ni ddim gwneud y penderfyniadau drosom ni ar y pwnc yna. A dwi eisiau ei wneud e fel yna achos dwi eisiau gweld gŵyl y banc i bob un o'r bobl yma yng Nghymru, nid jest pobl sy'n gweithio i gynghorau, nid jest pobl sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus, ond pob un ohonom ni'n cael y cyfle i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi fel yna, a dyna pam dwi eisiau gweld y pwerau yn nwylo Aelodau'r Senedd i wneud y penderfyniadau sy'n well i ni yma yng Nghymru ar rywbeth sy'n bwysig i bobl ledled Cymru fel Dydd Dewi Sant.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Jane Dodds. Reit, dydyn ni ddim yn clywed Jane Dodds ar hyn o bryd. Os safwch chi eiliad, rwyf i'n siŵr y cewch chi eich dadfudo. Dyna chi.