Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 1 Chwefror 2022.
Mae gwasanaeth annibynnol ar gyfer gwarchod plant sydd wedi eu masnachu yng Nghymru, a bydd llawer o geiswyr lloches ifanc, ar eu pen eu hunain yn bodloni'r diffiniad o gael eu masnachu i'r DU ac felly byddan nhw o fewn cwmpas y gwasanaeth hwn, ac mae'n debyg, ond nid yw'n union yr un fath, rwy'n gallu gweld hynny, i Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban. Rwy'n hapus iawn i ystyried a oes agweddau ar system yr Alban a allai fod yn ddefnyddiol i'w hefelychu yma yng Nghymru. Mae'r pwynt cyffredinol y dechreuodd Jane Dodds ag ef, Llywydd, yn un pwysig iawn: trychineb y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau sydd ar ddod. Oherwydd dyna fydd e i gynifer o bobl y maen nhw wedi eu cydnabod eu bod wedi dianc rhag ofn haeddiannol o erledigaeth ac a fydd yn gweld y Bil hwnnw bellach yn effeithio'n andwyol ar ddarparu cymorth integreiddio yng Nghymru, gan waethygu amddifadrwydd, cynyddu nifer y mudwyr sy'n cael eu camfanteisio ac sy'n gweithio'n anghyfreithlon yn ein cymunedau, a bydd y bobl hynny sydd eisoes yn agored i niwed yn gweld eu bod hyd yn oed yn fwy agored i niwed.
A byddwn yn gweld yr arwyddion gweladwy o hynny yma yng Nghymru, mae arnom ni ofn, o ran cynnydd mewn digartrefedd, o ran effeithiau ar iechyd y cyhoedd, gan ei bod yn debygol y bydd ofn ar bobl nad yw arian cyhoeddus ar gael iddyn nhw i gael gafael ar ofal iechyd. Llywydd, bydd cynnig cydsyniad deddfwriaethol o flaen y Senedd yn ddiweddarach y mis hwn, yn ymwneud yn arbennig â chymalau 48 i 56 o'r Bil, a fydd, yn ein barn ni, yn cyfyngu ar allu'r Senedd i gyflawni ein cyfrifoldebau datganoledig mewn cysylltiad â'r ceiswyr lloches ieuengaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig i'r Senedd ein bod ni'n atal cydsyniad i'r cymalau hynny, oherwydd nad ydyn nhw'n adlewyrchu'r gwerthoedd a'r credoau y mae'r Senedd hon, drwy ein rhaglen genedl noddfa, wedi arwain y byd arnyn nhw mewn sawl ffordd i sicrhau ein bod ni'n dweud y bydd pobl y mae angen cymorth arnyn nhw, ac y mae angen arnyn nhw drwy ddod i Gymru, yn gweld ein bod ni'n genedl groesawgar, sy'n deall y trawma y maen nhw wedi ei wynebu ac sy'n benderfynol o wneud yr hyn a allwn i'w helpu i roi eu bywydau ar drywydd newydd, a thrwy wneud hynny, i wneud eu cyfraniad i Gymru.