Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 1 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr i Jane Dodds am y cwestiwn, Llywydd. Mae ein cynllun cenedl noddfa yn nodi'r cymorth y gall ffoaduriaid sy'n cyrraedd Cymru ddisgwyl ei gael. Mae hyn yn cynnwys y cyngor a’r gwasanaethau sydd eu hangen i leihau anghydraddoldeb, atal ansefydlogrwydd, helpu integreiddio a helpu pobl sy'n ceisio noddfa i greu dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain ac i Gymru hefyd.