Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 1 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr, Rhun. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig nad ydyn ni'n taflu popeth o ran beth ddigwyddodd o'r blaen, achos roedd yna arfer da yn gweithio gyda'r ICF a gyda'r transformation programme hefyd. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd hynny a'n bod ni'n cymryd yr arloesi. Ond y drafferth oedd, achos nad oedd pobl yn gweld bod yna barhad, doedden nhw ddim yn ei rhoi hi i mewn i'r mainstream, a dyna pam mae'r ffordd rŷn ni'n mynd i wneud pethau y tro yma'n mynd i fod ychydig yn wahanol. Bydd angen i bobl ddod â match funding at y bwrdd, ac mae hwnna'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw roi lot mwy o'u harian eu hunain i mewn. A dwi'n gobeithio y bydd hwnna, wedyn, yn wirioneddol yn gweithio tuag at yr integreiddio yna rŷch chi'n sôn amdano, yn hytrach na jest cydweithio. A'r syniad, wedyn, yw bod pethau wedyn yn embedded. A'r peth arall yw, bydd tapering hefyd, felly, byddan nhw'n dechrau off gydag arian o'r gyllideb yma, ond y syniad yw y byddan nhw'n gweld y budd a byddan nhw'n symud arian o lefydd eraill i bethau maen nhw'n gwybod sy'n gweithio. Felly, dwi yn gobeithio—dyna'r syniad, ta beth—y bydd rhai o'r mesurau yna a oedd, fel yr oeddech chi'n ei ddweud, wedi'u dangos gan yr archwilydd cyffredinol—. Mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu o'r hyn welsom ni o'r blaen.
Mae yna enghreifftiau arbennig, dwi'n meddwl, o ble mae pethau wedi gweithio'n dda. Er enghraifft, yng Nghaerdydd, mae'r discharge hub, maen nhw wedi gwneud pethau fel cael full-time occupational therapist i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu symud allan a bod rhywun on call drwy'r amser. A social prescribing—mae hwnna wedi bod yn hynod o lwyddiannus yng Nghaerdydd, gyda 10 clwstwr yn gweithredu gyda social prescribing nawr. Yng Nghwm Taf, mae gennym ni assisted technology programme, sydd yn ddiddorol, achos mae'n galluogi pobl hen, efallai, i aros yn eu cartrefi nhw ac mae yna system responsive, wedyn, os oes rhywbeth yn mynd o'i le. A'r un peth yng Ngwent, er enghraifft. Mae home first programme, a'r syniad yw ein bod ni'n rhoi'r hospital discharge yna mewn lle, a'r un peth yn Grange Hospital—home first. Mae'r rheini i gyd yn enghreifftiau o le rŷn ni wedi gweld pethau arloesol yn digwydd, maen nhw'n llwyddiannus, ond mae angen inni nawr weld bod pethau'n symud i mewn i fod yn mainstream. Yn y gogledd, byddwch chi'n ymwybodol o'r ICAN communiy mental health hub, sydd wedi bod yn llwyddiannus hefyd. Felly, mae lot o bethau da yn digwydd, ond rŷch chi'n eithaf reit, beth sydd angen nawr yw i gymryd yr ICAN model a gweld, 'Reit, pam na allwn ni weld hwn yn digwydd mewn llefydd eraill yn y wlad?'