Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 1 Chwefror 2022.
Rwy'n bendant yn cefnogi eich uchelgais chi ar gyfer atebion cymunedol effeithiol ac ataliol, ac mae hi'n sicr bod angen llawer mwy o atal arnom, gan fod 20 y cant o'n poblogaeth yn aros am apwyntiadau ysbyty ledled Cymru—mae hwnnw'n ffigur deifiol iawn.
Beth bynnag, ddwy flynedd yn ôl, bron i'r diwrnod, fe ymwelais i â thîm nyrsio cymdogaeth Cwm Taf ychydig cyn i'r pandemig dorri, ac fe welais i'r gofal arbenigol anhygoel a ddarperir gan a chyda'r bobl yr oedd angen y gwasanaethau hyn arnyn nhw, a oedd yn amrywio o bopeth rhwng pobl yr oedd angen triniaeth ar eu clwyfau nhw hyd at bobl yr oedd angen gofal lliniarol arnyn nhw a'r rhai yr oedd angen cymorth arnyn nhw i ddeall sut i reoli eu cyflyrau, beth bynnag y gallen nhw fod, ar y cyd â'u teuluoedd a'u ffrindiau. Yn seiliedig iawn ar fodel cyd-gynhyrchu Buurtzorg, fe ddangosodd y cynllun treialu, yn y gwerthusiad, pa mor dda y mae hynny'n gweithio, ac fe wn i fod yna ymrwymiad i wasgaru hynny ledled Cymru gyfan. Felly, sut mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn cyd-fynd â'r uchelgais hwnnw i sicrhau bod gan bob cymuned dîm nyrsio cymdogaeth a gaiff ei hunanreoli, i sicrhau bod pobl nad oes angen iddyn nhw fod yno'n cael eu cadw draw o'r ysbyty?
Yn ail, fe hoffwn i eich holi chi am y canolfannau cymunedol hyn yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw. Roeddwn i yng nghynhadledd y Blaid Gydweithredol ar Zoom y diwrnod o'r blaen, ac roedd y Prif Weinidog yn sôn am 50 o ganolfannau cymunedol lleol, gan ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â gwasanaethau eraill, gyda dinasyddion yn cael eu hystyried yn asedau, ar gyfer rhannu eu sgiliau nhw a chyfuno wrth ddatrys y problemau y mae'r gymuned honno'n eu hwynebu. Sut y mae hynny—yr hyn yr oedd y Prif Weinidog yn sôn amdano—yn cysylltu â'r hyn yr ydych chi'n sôn amdano a fydd yn cael ei arwain gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol hyn?