Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 1 Chwefror 2022.
Dirprwy Lywydd, yn ein cenhadaeth i sicrhau system addysg sy'n darparu safonau a dyheadau uchel i'n holl ddysgwyr, gall pob polisi, pob penderfyniad y Llywodraeth hon helpu i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar allu a chyfleoedd ein pobl ifanc i ddysgu a thyfu. Ond dim ond os byddwn yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi lles ein holl ddysgwyr a staff y gallwn ni wneud hyn. Felly, dyma'r amser iawn i ofyn i ni'n hunain a yw siâp y flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol yn ein helpu i gyflawni'r nodau hanfodol a chyfunol hyn. A yw gwyliau hir yr haf yn fanteisiol i ddatblygiad academaidd a phersonol ein dysgwyr mwy difreintiedig? A yw'r calendr anwastad, yn enwedig gyda thymor hir yn yr hydref, yn gadarnhaol ar gyfer lles staff ac yn osgoi gorweithio? A allem ni wneud mwy o ran sut yr ydym yn cefnogi ysgolion i gynllunio eu dyddiau a'u hwythnosau, fel bod dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i feithrin galluoedd academaidd, diwylliannol a chymdeithasol?
Mae gormod o amser wedi mynd heibio heb i ni gael trafodaeth briodol ar y mater hwn. Yn wir, mae gennym ni galendr ysgol heb ei newid fawr ddim ers 150 mlynedd, pan oedd y disgwyliad i bobl ifanc gyfuno astudio â gweithio ar y fferm, mewn ffatrïoedd neu gefnogi gartref yn wahanol iawn i'r hyn ydyw heddiw. Mae profiad y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gofyn i ni edrych o'r newydd ar sut yr ydym yn gwneud llawer o bethau. Mae hynny, yn amlwg, wedi bod yn anghenraid, ond mae hefyd yn gyfle. Felly, dyma'r amser iawn ar gyfer trafodaeth genedlaethol am y flwyddyn a'r diwrnod ysgol. Mae'n rhaid i ni archwilio sut y mae amser ysgol a'r ffordd yr ydym yn ei ddefnyddio yn cefnogi lles dysgwyr a staff yn y ffordd orau, yn lleihau anghydraddoldeb addysgol, ac yn gallu cyd-fynd yn well â phatrymau byw a gweithio cyfoes.
Ar hyn o bryd rydym yn casglu barn, safbwyntiau a phrofiadau ar sut yr ydym yn strwythuro'r flwyddyn ysgol. Mae hyn yn cynnwys clywed gan ddysgwyr, gan deuluoedd a'r gweithlu addysg, ond hefyd y sector cyhoeddus a phreifat ehangach, fel gofal plant, gwasanaethau iechyd, twristiaeth a thrafnidiaeth. Rydym ni wedi comisiynu Beaufort Research i'n cefnogi i fwrw ymlaen â hyn, fel ein bod yn datblygu sylfaen dystiolaeth eang sy'n benodol i Gymru, a bydd y gwaith hwn yn llywio ein camau nesaf.
I fod yn glir, Dirprwy Lywydd, nid ydym yn ystyried newid cyfanswm y diwrnodau addysgu na faint o wyliau fydd. Ond rydym yn gwrando ar farn ar sut y gallem ni drefnu calendr yr ysgol yn wahanol, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi cynnydd dysgwyr, i wella lles staff a dysgwyr, a chyd-fynd â ffyrdd cyfoes o fyw. Mae fy sgyrsiau cychwynnol, ac adborth cynnar o'r gwaith hwn, yn awgrymu bod awydd gwirioneddol i ystyried newid y calendr, a byddaf yn parhau i gasglu barn i helpu i lunio ein camau nesaf, drwy barhau i drafod yma yn y Senedd a thu hwnt.
Gan droi at y diwrnod ysgol, bydd yr Aelodau'n cofio y gwnes i gyhoeddi ar ddechrau mis Rhagfyr gynlluniau ar gyfer treial ar raddfa fach yn rhoi sicrwydd i ddysgwyr o gynnig gweithgareddau lles a dysgu ychwanegol dros gyfnod o 10 wythnos. Dirprwy Lywydd, mae'n bleser gen i gadarnhau bod y treialon hyn ar y gweill bellach. Mae tari ar ddeg o ysgolion ac un coleg, o bum awdurdod lleol, wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn y treial, a bydd mwy na 1,800 o ddysgwyr yn elwa ar bum awr ychwanegol yr wythnos o sesiynau cyfoethogi o amgylch y diwrnod ysgol, gan gynnwys chwaraeon a'r celfyddydau, gweithgareddau cymdeithasol, cymorth lles a rhaglenni academaidd. Rydym yn gwybod o ymchwil y gall y math hwn o ddull arwain at enillion mewn cyrhaeddiad, yn ogystal â gwell presenoldeb, hyder a lles, yn enwedig i'n dysgwyr difreintiedig. Gall rhaglenni fel y treialon hyn, sy'n darparu sesiynau ychwanegol ysgogol ac sy'n cefnogi dysgwyr i ailymgysylltu â dysgu, gael mwy o effaith ar gyrhaeddiad na'r rhai â phwyslais academaidd yn unig.