Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 1 Chwefror 2022.
Ysgolion, gan gynnwys dysgwyr, sydd wedi dylunio’r gweithgareddau, ac rydym ni wedi cyd-weithio gyda’r WLGA i ddarparu ymgynghorydd ar lawr gwlad i gefnogi’r ysgolion, cynnig arbenigedd ac i leihau llwyth gwaith.
Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi dangos mor bwysig yw amgylchedd yr ysgol fel y lle y mae plant a phobl ifanc yn dysgu, yn tyfu ac yn teimlo’n saff. Mae pwysigrwydd y cysylltiad rhwng yr ysgol a’r gymuned ehangach wedi cael ei bwysleisio hefyd. Drwy’r rhaglen dreialu yma, mae ysgolion yn gallu ehangu eu cysylltiadau â phartneriaid lleol a chenedlaethol, i greu’r lle a’r cyfle ar gyfer gweithgareddau a phrofiadau eang, sy’n gydnaws â’n diwylliannau. Wrth inni symud ymlaen, y cysylltiadau hyn â’r gymuned ehangach, yr ymgysylltiad cryfach nag erioed â theuluoedd, a’r gwaith o gydleoli gwasanaethau allweddol fydd yn cefnogi ein hymgyrch i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, a sicrhau bod pawb yn anelu’n uchel.
Ond yn ogystal â chefnogi dysgwyr, mae hwn yn gyfle hefyd i ddod i ddealltwriaeth well a chasglu tystiolaeth. Fe fyddwn ni’n gwerthuso’r rhaglen dreialu, felly, ac rydyn ni’n disgwyl gweld y canfyddiadau cyntaf erbyn dechrau’r haf. Y nod yw datblygu ymhellach ein hystyriaeth o sut rydyn ni’n defnyddio ac yn strwythuro amser yn yr ysgol, a sut y gallai sesiynau ychwanegol wella lefelau lles a datblygiad academaidd, a chynyddu cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol. Dwi wedi neilltuo hyd at £2 filiwn i gefnogi’r gweithgarwch cyfoethogi yma, ac fe fyddaf i’n rhoi mwy o wybodaeth i’r Aelodau ar hynt y gwaith yn ystod y misoedd i ddod.
Mae degawdau wedi mynd heibio heb inni gael sgwrs yng Nghymru o ddifrif am y ffordd rydyn ni’n strwythuro’r diwrnod a’r flwyddyn ysgol. Mae hynny’n llawer rhy hir. Rydyn ni, felly, yn gweithredu ar sail ein maniffesto, ein rhaglen lywodraethu a’r ymrwymiad yn ein cytundeb cydweithio i ymchwilio i’r opsiynau diwygio ac i feddwl am hyn o’r newydd, fel y gallwn ni leihau anghydraddoldeb addysgol, cefnogi lles dysgwyr a staff, a chreu trefn sy’n cyd-fynd yn well â phatrymau bywyd teuluol a gwaith modern.