Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 1 Chwefror 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog am eich datganiad. Yn fy rôl fel llefarydd Plaid Cymru ar blant a phobl ifanc, rwy'n edrych ymlaen at gydweithio efo chi ar y polisi hwn fel rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng fy mhlaid a'ch Llywodraeth.
Mae cryn dipyn o dystiolaeth rhyngwladol ynglŷn â diwygio'r diwrnod a'r flwyddyn ysgol yn bodoli eisoes—rhai enghreifftiau llwyddiannus, a rhai enghreifftiau llai llwyddiannus. Nid yw'n syndod bod effeithiau ymestyn amser ysgol felly'n dibynnu ar sut mae'r amser yn cael ei ddefnyddio. Mae tystiolaeth yr EPI yn dangos i ni fod ymestyn diwrnod ysgol yn fwyaf effeithiol pan ydym yn defnyddio staff presennol sydd wedi'u hyfforddi'n dda, wedi'u hintegreiddio i ddosbarthiadau a gweithgareddau sy'n bodoli eisoes. Mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth empirig gadarn, ac mae'n fwy effeithiol, yn ôl tystiolaeth, ar gyfer mathemateg. Cyn belled â bod y dull hwn yn cael ei ddilyn, mae cyllid ychwanegol i alluogi amser ysgol estynedig yn debygol o arwain at enillion cyson a chryf. O gofio bod y dystiolaeth a ddarparwyd yn dangos inni fod ymestyn dyddiau ysgol yn fwyaf effeithiol pan fyddwn yn defnyddio staff presennol sydd wedi eu hyfforddi'n dda, a allai'r Gweinidog amlinellu sut y mae'r £2 miliwn o gyllid ar gyfer y peilot hwn, yn ogystal â'r cyllid ehangach ar gyfer adfer addysg, yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod staff sydd wedi eu hyfforddi'n dda ar waith i sicrhau adferiad addysg effeithiol ac i fanteisio i'r eithaf ar y manteision posib o ddiwygio'r diwrnod ysgol?
Fe fyddwch chi hefyd yn ymwybodol bod nifer o randdeiliaid, gan gynnwys undebau ac athrawon, wedi codi pryderon nad dyma'r amser iawn ar gyfer unrhyw newidiadau megis ymestyn y diwrnod ysgol. Cafwyd ymateb cymysg gan undebau athrawon, gyda Neil Butler yn nodi a rhybuddio bod goblygiadau i lwyth gwaith athrawon, ac yn wir iechyd a diogelwch wrth i ysgolion barhau i gael trafferth gyda dygymod â COVID. Yn wir, mae rhai ysgolion gyda'r lefelau uchaf erioed o COVID yn ystod y pandemig ar yr amser hwn. Er eu bod, fel undebau, yn agored i newidiadau i'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol, dywedodd UCAC eu bod, fel undeb, am sicrhau nad oes unrhyw niwed i delerau ac amodau athrawon. Felly, mae yna bryderon clir yma o ran llwyth gwaith, telerau ac amodau athrawon, ac iechyd a diogelwch o ran ymestyn y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Felly, a allai'r Gweinidog gofnodi ac ymateb i bryderon yr undeb tra'n cynnig rhywfaint o sicrwydd i athrawon na fyddant yn wynebu mwy o lwyth gwaith ac effeithiau niweidiol i'w telerau ac amodau?
Mater arall yr hoffwn ei godi ydy—. Tra fy mod yn croesawu'r ffaith fod y peilot yn mynd rhagddo, gaf i godi mater sy'n peri pryder i mi? Yn ôl y wasg dwi wedi ei ddarllen, roeddech chi eisiau gweld 20 ysgol yn bod yn rhan o'r peilot i ddechrau, ond dim ond 14 sydd wedi arwyddo i fyny i gymryd rhan. Dwi'n deall, o'r 14, yn ôl cyfweliad a roesoch chi i Radio Cymru cyn y Nadolig, nad oes unrhyw un o'r rhain yn ysgolion cyfrwng Cymraeg a bod yr ysgolion i gyd un ai yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Castell Nedd Port Talbot neu Flaenau Gwent. Un her sydd gennym o ran ysgolion gwledig ac ysgolion cyfrwng Cymraeg yn benodol yw bod eu dalgylchoedd yn ehangach ac felly bod disgyblion yn gorfod dibynnu ar ddal bws i'r ysgol, gan golli cyfle yn aml, hyd yn oed rŵan, i ymuno efo clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol. Felly, os ydy'r peilot yma i fod mor ddefnyddiol a thrylwyr â phosibl, a ninnau'n edrych ar newid rhywbeth sydd wedi bodoli ers 150 o flynyddoedd, oni fyddai'n werth i'r Llywodraeth edrych hefyd ar drio cael chwech o ysgolion ychwanegol sydd yn benodol yn yr ardaloedd sydd ddim yn cael eu cynrychioli, ac edrych o ran ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg, os ydyn ni wir yn mynd i ddysgu gwersi o'r peilot hwn?
Yn gysylltiedig â hyn, mae'r pandemig wedi cael effaith andwyol iawn ar y Gymraeg, fel y gwyddom ni, ac mae wedi amddifadu nifer o blant o gefndiroedd di-Gymraeg rhag ei defnyddio'n rheolaidd ac yn naturiol. Heb os ac oni bai, mae hyn wedi cael effaith ar ddatblygiad dysgwyr ar eu ffordd i fod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, ac mae'n bendant wedi cael effaith yn barod ar ein hymdrechion i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. A allai'r Gweinidog felly amlinellu sut y mae'n credu y bydd y cynlluniau i ddiwygio'r diwrnod a'r flwyddyn ysgol yn cefnogi defnydd cynyddol o'r Gymraeg? Yn ychwanegol at hyn, o gofio'r prinder ymddangosiadol o athrawon Cymraeg yng Nghymru, a allai'r Gweinidog egluro sut yr ydych chi a Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod y gweithlu yn ei le i ddarparu'r amser dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg?