Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 1 Chwefror 2022.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad pwysig hwn. Llywydd, os caf i, hoffwn ddechrau drwy groesawu penodiad Derek Vaughan i'r swydd hon. Bydd Derek yn dod â chyfoeth o brofiad i'r swydd, ac rwy'n credu ei fod yn benodiad gwych. Gweinidog, un cwestiwn gennyf i. A ydych chi'n cytuno ac a wnewch chi gadarnhau heddiw mai un o'r blaenoriaethau i'r rhai sy'n ceisio cryfhau ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yw y dylai sefydliadau yng Nghymru allu manteisio o hyd ar y cyllid ymchwil gan Horizon Europe, pan fydd yr UE yn cytuno ar ein cyfranogiad ni?