Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 1 Chwefror 2022.
Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau ac, unwaith eto, am eich dymuniadau da ar gyfer adferiad, gobeithio o fewn y cyfnod ynysu newydd. Edrychwch, ar eich pwyntiau ynghylch y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a sut y mae cysylltiadau rhynglywodraethol i fod i weithio, rwy'n credu bod hyn yn dangos y gwahaniaeth y mae'r arweinyddiaeth ar lefel y DU yn ei wneud. Yn sicr, cefais fwy na fy nghyfran deg o anghytuno gyda'r Llywodraeth dan arweiniad Theresa May pan oedd yn Brif Weinidog, ond rwy’n credu bod mwy o sylw'n cael ei roi i'r hyn y cytunwyd arno ac yn cael ei gytuno drwy'r broses rynglywodraethol honno, drwy gyd-bwyllgorau gweinidogion, ac, wrth gwrs, daeth cyfarfodydd y cyd-bwyllgorau i ben. Yr her yn awr yw bod ein peiriannau rhynglywodraethol newydd yn gweithio mewn gwirionedd ac yn real ac nid ydym yn gweld buddiannau Cymru—nid yn unig buddiannau Cymru, ond rhai'r Llywodraethau datganoledig eraill—yn cael eu hanwybyddu neu eu gorlethu gan Lywodraeth y DU nad oes ganddi ddiddordeb mewn gwneud i'r trefniadau partneriaeth y dylem ni fod â nhw, weithio. Rwy'n credu, er bod gennych chi a minnau safbwyntiau gwahanol ar yr undeb, rwyf eisiau gweld yr undeb yn gweithio, a rhaid i hynny olygu bod yn rhaid cael parch priodol gan Lywodraeth y DU at y cytundebau sydd gennym ar waith ar sut yn union y mae hynny i fod i ddigwydd.
O ran cyngor partneriaeth y DU a'r UE, fel y dywedais wrth ateb Paul Davies, ymadawodd yr Arglwydd Frost gyda gwaith heb ei gwblhau mewn amrywiaeth o'r meysydd yr oedd wedi bod yn eu rhedeg ar gyfer Llywodraeth y DU. Rwyf wedi ei gwneud yn glir na all Gweinidogion fod yn arsylwyr yn y cyngor partneriaeth; rhaid i ni fod yn gyfranogwyr, neu ni fydd Gweinidogion yn ei fynychu. Mae'n ddefnydd gwael o fy amser i neu amser unrhyw Weinidog arall i eistedd ar y cyrion yn unig tra bo dim ond un Gweinidog Llywodraeth y DU yn siarad ar ran y pedair gwlad, gan gynnwys y meysydd hynny lle mae buddiant amlwg a chlir wedi'i ddatganoli. Ac nid oes rhaid i hyn fod yn faes lle mae gwrthwynebiaeth neu anghytundeb rhwng pedair Llywodraeth y DU. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi cyfeirio'n rheolaidd at achlysuron blaenorol lle'r oedd Gweinidogion o wahanol rannau o'r DU yn ein hymgysylltiadau blaenorol â Chyngor Gweinidogion Ewrop yn cytuno ar safbwyntiau cyffredin a byddai Gweinidogion datganoledig yn arwain ar rai o'r eitemau hynny. Mae hynny'n ymarfer gwerthfawr o amser gweinidogol. Dylai hyrwyddo mwy o weithio i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y buddiannau cyffredin ledled y DU, ac mae angen i unrhyw un sydd eisiau esboniad llawnach o hyn dreulio ychydig o oriau gydag Alun Davies i gael esboniad manylach o'r ffordd y mae hynny wedi gweithio'n llwyddiannus ar adegau yn y gorffennol. Felly, mae model y profwyd ei fod yn gweithio eisoes ond nad yw'n mynd i faes lle mae Llywodraeth y DU yn teimlo bod ei safbwynt yn cael ei gamfeddiannu, ond yn fwy cyffredinol, mewn gwirionedd, yn adeiladu ar hynny hefyd. A dyna'r ffordd yr ydym yn mynd at ein perthnasoedd ehangach hefyd.
Felly, o ran eich pwyntiau olaf ynghylch cadw mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU ar ein perthynas a'n cyswllt ag Ewrop, rydym yn gwneud hynny fel mater o drefn. Nid ydym yn bwriadu gwneud hyn mewn ffordd sy'n fwriadol wrthweithiol neu'n torri'n fwriadol ar draws buddiannau Llywodraeth y DU. Rydym yn gwneud hynny mewn ffordd lle mae gwybodaeth yn cael ei rhannu'n wirioneddol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn y dywedwn y dylai pawb arall ei wneud, a bod â gwir ddiddordeb yn y ffordd yr ydym yn hyrwyddo buddiannau Cymru, ac i wneud hynny mewn ffordd a ddylai ychwanegu cryfder at le mae'r DU yn hytrach na'i thanseilio. Felly, rwy'n ffyddiog iawn y gallwn ni barhau i wneud hynny, pryd y mae Derek Vaughan yn gweithio i flaenoriaethau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru, ac yn gwneud hynny mewn ffordd sydd, yn fy marn i, yn fodel ar gyfer yr hyn a ddylai ddigwydd yn y dyfodol o fewn y DU ac yn allanol.