Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 1 Chwefror 2022.
Wel, efallai eich bod wedi gweld bod y Financial Times heddiw, unwaith eto—nad yw'n nodedig am gyd-deithio gyda'r Blaid Lafur—wedi cynnal eu hymchwiliad eu hunain i'r hyn sydd wedi bod yn digwydd gyda chronfeydd yn lle rhai yr Undeb Ewropeaidd. Roedd addewid clir iawn ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2019—rwy'n credu mai tudalen 44 ydoedd—y byddai gan wledydd y DU o leiaf gymaint o arian ag y bu gennym pan oeddem yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r addewid hwnnw wedi'i dorri, wedi'i dorri yn amlwg iawn, ac rydych chi'n iawn bod y cyfanswm cyffredinol, gan ystyried colli incwm ffermydd ac amaethyddol hefyd, tua £1 biliwn dros y blynyddoedd nesaf.
Mae'n newyddion drwg i Gymru. Mae hefyd yn newyddion drwg i'r DU, oherwydd mae rhanbarthau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a oedd gynt yn ddibynnol ar yr arian hwn hefyd yn mynd i fod ar eu colled yn sylweddol. Newyddion drwg i swyddi, newyddion drwg i sgiliau, newyddion drwg i ymchwil a datblygu, a'r rhan waethaf o hyn yw, nid oes arlliw o brotest gan yr un Ceidwadwr Cymreig yn y Senedd bod £1 biliwn yn cael ei herwgipio o Gymru. Mae'n warthus bod hyn wedi digwydd—addewid sy'n amlwg wedi'i dorri, ac yn waeth na diwerth gan y Ceidwadwyr Cymreig sy'n dal i fynnu ein bod yn derbyn, nid dim ond yn derbyn ond yn cefnogi, fod yr arian hwnnw wedi'i sugno allan o Gymru. Rwy'n credu mai'r unig ffordd o gael rhywbeth wedi'i wneud yn iawn yw i Lywodraeth Dorïaidd y DU dderbyn bod yn rhaid iddyn nhw gadw at eu haddewid a rhaid iddyn nhw weithio yn briodol ac yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr addewidion ariannu hynny'n cael eu cyflawni, ac os nad yw hynny'n digwydd, yna rwy'n credu ei bod yn amlwg iawn mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw Llywodraeth newydd yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n edrych ymlaen at yr ymgyrch etholiadol nesaf i sicrhau bod hynny'n digwydd.