Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 1 Chwefror 2022.
Rwyf yn ddiolchgar i chi, Llywydd, ac yn ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Rwy'n gobeithio eich bod yn parhau i wella o COVID, ac rwy'n credu yr hoffai pobl ar draws y Siambr ddymuno'n dda ichi gyda hynny.
Fel eraill, hoffwn eich llongyfarch ar benodi Derek Vaughan. Mae'r rhai hynny ohonom sydd wedi gweithio gyda Derek Vaughan yn y gorffennol yn sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd yn gwybod pa mor effeithiol y mae wedi bod yn sefyll dros Gymru, ac edrychwn ymlaen at ei weld yn parhau i wneud hynny.
O ran eich datganiad y prynhawn yma, rwy'n cytuno'n fawr iawn â llawer o'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, ond rwyf eisiau gofyn un cwestiwn i chi, Gweinidog, ac rwyf eisiau gofyn i chi wneud un peth yn y blynyddoedd i ddod: rwyf eisiau i chi ddweud y gwir am Brexit wrth y Siambr hon a phobl Cymru. Rwyf eisiau i chi ddweud wrthym ac rwyf eisiau i chi ddod i'r Siambr hon o leiaf unwaith bob chwarter i roi asesiad o'r difrod sy'n cael ei wneud i'r wlad hon o ganlyniad i Brexit a'r effaith y mae'n ei chael. Rydym ni wedi gweld busnesau yn cael eu colli, rydym wedi gweld colli masnach, rydym wedi gweld colli arian, ac mae'r Torïaid yn chwerthin. Un o'r pethau mwyaf rhyfeddol am y datganiad hwn y prynhawn yma yw po fwyaf y mae pobl yn sôn am y cyllid sydd wedi'i golli i bobl Cymru, y mwyaf y bydd eu meinciau cefn yn chwerthin. O leiaf mae eu mainc flaen yn ddigon doeth i wybod am y niwed y mae hyn yn ei wneud i'r wlad hon.
Gobeithio, Gweinidog, y byddwch chi'n gallu sôn am y ffordd yr ydym yn colli cyfleoedd, ond yn creu rhwystrau—rhwystrau i fusnesau, mwy o fiwrocratiaeth, mwy o dâp coch. Does dim ots iddyn nhw oherwydd dydyn nhw ddim yn poeni o gwbl. Gwyddom ni beth y dywedodd arweinydd y Torïaid am fusnes; ni wnaf ei ailadrodd y prynhawn yma, ond maen nhw wedi'i wneud yn amcan eu polisi, a dyna'r unig bolisi y maen nhw'n llwyddo ynddo.