Part of the debate – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2022.
Cynnig NDM7905 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr effaith y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ei chael ar iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chamddefnyddio sylweddau yn ddiweddarach mewn bywyd.
2. Yn credu bod rhaid blaenoriaethu taclo trallod yn ystod plentyndod ac ymyrraeth gynnar os am roi’r dechrau gorau i bob plentyn yng Nghymru.
3. Yn nodi’r dystiolaeth bod cynnydd wedi bod mewn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o ganlyniad i COVID-19.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru.