Mercher, 2 Chwefror 2022
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno trwy...
Yr eitem gyntaf sydd gyda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Luke Fletcher.
1. Pa flaenoriaethau y mae'r Gweinidog yn eu hystyried wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol? OQ57577
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar gyllidebau awdurdodau lleol? OQ57575
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands.
3. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gyfrifoldebau awdurdodau lleol dros gynnal a chadw ffyrdd wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y portffolio newid hinsawdd? OQ57574
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyllid teg i awdurdodau lleol ledled gogledd Cymru? OQ57558
5. Sut mae'r Gweinidog yn monitro gwerth am arian ac effeithiolrwydd gwariant Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth? OQ57544
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i alluogi awdurdodau lleol i godi ardoll twristiaeth? OQ57569
7. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi busnesau i ddelio ag effaith COVID-19 wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi? OQ57550
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y setliad llywodraeth leol i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2022-23? OQ57554
9. Pa ystyriaeth a roddwyd i wella seilwaith trafnidiaeth wrth bennu cyllideb y portffolio newid hinsawdd? OQ57548
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, a'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar effaith plaladdwyr ar iechyd gwenyn? OQ57566
2. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am wasanaethau fasgiwlar i gleifion o Arfon a phob rhan o’r gogledd ers...
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi marchnata cig oen a chig eidion o Gymru? OQ57579
4. Sut mae'r Llywodraeth yn cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar arolygiadau o'r trac rasio milgwn sy'n weddill yng Nghymru i sicrhau safonau lles anifeiliaid? OQ57572
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet ynghylch cysylltedd trafnidiaeth yng ngogledd Cymru? OQ57543
6. Sut bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cefnogi prosiectau cadwraeth cynefinoedd? OQ57564
7. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i sicrhau y defnyddir unrhyw fwyd sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru mewn ffordd effeithlon? OQ57576
8. Sut bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur? OQ57546
9. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy? OQ57559
10. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r meini prawf ar gyfer derbyn cyllid o dan gronfa her ddatgarboneiddio a COVID Llywodraeth Cymru? OQ57555
Iawn, mae gennym un cwestiwn ar ôl y prynhawn yma. Y cwestiwn amserol yw hwnnw. Dewch inni weld a allwn ddal ati gyda'r gwaith da. Mark Isherwood i ofyn y cwestiwn amserol, i’w ateb...
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am daliad y cynllun cymorth tanwydd gaeaf? TQ594
Y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Y datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Sioned Williams.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3 a 4 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Y ddadl nesaf felly yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar 70 mlynedd ers esgyn i'r orsedd, a dwi'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Darren Millar.
Croeso nôl. Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ordewdra. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os...
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod parthau perygl nitradau'n cael eu gorfodi'n effeithiol?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia