Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch am yr ateb yna. Y peth cyntaf i'w ddweud ydy mor falch ydw i bod sefyllfa gyllidol Cyngor Sir Ynys Môn wedi setlo mor dda dan arweinyddiaeth Plaid Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r dreth gyngor ymhlith yr isaf yng Nghymru. Un ardal o risg sy'n peri pryder ydy cyflogau athrawon. Rŵan, yn y gorffennol, mae'r Llywodraeth wedi helpu cynghorau efo'r costau hynny, ond, fel dwi'n ei deall, mae'r Llywodraeth rŵan yn pasio'r risg yna ymlaen i awdurdodau lleol, a hynny ymysg nifer o gyfrifoldebau eraill sy'n cael eu trosglwyddo yn y setliad—digartrefedd yn un ohonyn nhw; cyflog byw gwirioneddol i ofalwyr hefyd. Ond mae'r risg yma o gwmpas cyflogau athrawon yn un gwirioneddol. Allwn ni gael sicrwydd y bydd y Llywodraeth yn barod i gamu i mewn i roi cymorth ariannol pan fydd setliad terfynol athrawon wedi cael ei benderfynu, os ydy hynny, mewn difrif, yn bygwth y gwasanaethau hanfodol eraill mae cynghorau'n gorfod eu delifro?