Defnyddio Bwyd yn Effeithlon

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:55, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn sicr, rwy'n gwneud popeth yn fy ngallu i hyrwyddo pysgod a'n sector dyframaethu. Fe sonioch chi am y cyd-ddatganiad pysgodfeydd, sy'n destun ymgynghoriad yn awr. Bydd y pwyllgor yn craffu arnaf mewn perthynas ag ef yfory mewn gwirionedd, ac rwy'n credu ei fod yn gyfle mawr. Wrth inni edrych ar gaffael, fe fyddwch yn ymwybodol fod Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud mewn perthynas â chaffael. Credaf eich bod yn iawn ynglŷn â sicrhau bod ysgolion—. Roeddwn yn eithaf hwyr yn dechrau bwyta pysgod. Fel plentyn, nid oeddwn mor awyddus â hynny, ac efallai mai'r rheswm am hynny yw na châi ei roi i mi yn fy nghinio ysgol na chymaint â hynny gartref—roeddem yn bwyta llawer o gig. Felly, credaf eich bod yn iawn fod ychydig mwy y gallwn ei wneud efallai i hyrwyddo pysgod ac yn sicr pysgod cregyn ymhlith ein pobl iau, ac mae cyfle i wneud hynny wrth inni fynd drwy'r broses gaffael hon.