Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 2 Chwefror 2022.
Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chyd-Weinidogion Cabinet. Bydd ein rhaglen metro newydd ar gyfer gogledd Cymru, sy'n werth miliynau lawer o bunnoedd, yn trawsnewid gwasanaethau trenau, bysiau a theithio llesol ar draws gogledd Cymru. Bydd yn sicrhau bod teithio ar draws gogledd Cymru yn haws ac yn gyflymach a bydd yn adeiladu cysylltiadau gwell â gogledd-orllewin Lloegr.