– Senedd Cymru am 3:16 pm ar 2 Chwefror 2022.
Y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Y datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Ar ddydd Sadwrn olaf mis Ionawr 1872, cyfarfu Clwb Rygbi Castell-nedd ag Abertawe i gystadlu yn y gêm glwb gyntaf i'w chofnodi yn hanes rygbi Cymru. Ddydd Gwener, bydd y gêm hanesyddol hon yn cael ei choffáu wrth i Gastell-nedd ac Abertawe fynd benben â'i gilydd unwaith eto. Mae Clwb Rygbi Castell-nedd, clwb hynaf Cymru, yn dathlu cant a hanner o flynyddoedd ers ei sefydlu. Dros yr amser hwnnw, mae crysau duon Cymru wedi gweld a gwneud y cyfan; maent wedi cystadlu yn erbyn rhai o gewri’r gamp, wedi ennill nifer drawiadol o fuddugoliaethau cwpan, ac wedi torri sawl record. Mae nifer o gyn-chwaraewyr nid yn unig wedi cynrychioli’r clwb gyda rhagoriaeth, ond hefyd eu gwlad; mae dynion fel Gareth Llewellyn, Dai Morris, Jonathan Davies, Martyn Davies, Brian Thomas, Duncan Jones, Shane Williams a gormod i sôn amdanynt heddiw wedi sicrhau eu lle parhaol yn hanes rygbi Cymru.
Mae'r rheini sydd wedi chwarae dros Gastell-nedd wedi diddanu pobl dirifedi yng Nghymru ac ym mhob rhan o'r byd, ac wedi ysbrydoli llawer i ymgymryd â'r gamp. Ond nid y chwaraewyr yn unig y dylid eu dathlu; dylid dathlu'r gymuned gyfan o amgylch y tîm, o'r staff hyfforddi i'r rheini sy'n gweithio yn y clwb, o'r gwirfoddolwyr i'r cefnogwyr ymroddedig ac angerddol. Heddiw, hoffwn fyfyrio ar waddol cyfoethog a chyfraniad sylweddol Clwb Rygbi Castell-nedd. Mae'r hyn a gychwynnodd ar y diwrnod oer hwnnw ym mis Ionawr wedi trawsnewid camp, tref a chenedl. Llongyfarchiadau, Castell-nedd. Ymlaen i'r 150 mlynedd nesaf.
Roeddwn i am rannu efo'r Senedd wybodaeth am ffilm fer ond hyfryd sy'n rhoi bywyd newydd i un o hen chwedlau ein cenedl ni. Disgyblion Ysgol Gynradd Rhosgadfan yn fy etholaeth i sydd wedi creu'r ffilm. Fe'i dangoswyd yn uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow, a chael ymateb brwd. Cafodd y plant a'u teuluoedd gyfle i weld y ffilm ar sgrin fawr mewn dangosiad arbennig yn Galeri Caernarfon, ac roedd yn bleser i mi gael ymuno â nhw.
Mae Rhosgadfan yn un o bentrefi mwyaf difreintiedig fy etholaeth, a rhai teuluoedd erioed wedi cael cyfle i fynychu'r theatr o'r blaen. Enw'r ffilm ydy Blot-deuwedd, ac mae'n rhoi gwedd newydd i gainc adnabyddus y Mabinogi sy'n dilyn hanes Blodeuwedd, y ferch a wnaed o flodau. Mae disgyblion Ysgol Gynradd Rhosgadfan wedi gosod y stori mewn cyd-destun modern wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae'r 'blot' yn Blot-deuwedd yn cynrychioli dinistr y ddynoliaeth i'r byd. Mae'r actio, y ffilmio, yr animeiddio, y lleoliadau yn creu cyfanwaith hudolus, a dwi'n eich annog chi i wylio Blot-deuwedd, ac yn llongyfarch pawb fu ynghlwm â'r project. Ond yn bennaf, dwi'n diolch i'r plant am ddod â hen chwedl yn fyw mewn ffordd hynod berthnasol wrth i ni wynebu un o heriau mawr ein hoes.
Cefais y fraint o groesawu chwaraewyr dartiau gorau’r byd i'n Senedd y prynhawn yma, wrth iddynt baratoi ar gyfer noson gyntaf yr Uwch Gynghrair Dartiau yng Nghaerdydd yfory. Fel chwaraewr dartiau brwd fy hun, roedd yn wych cynnal y digwyddiad hwn gyda fy ffrind, fy nghyd-Aelod a chwaraewr a chefnogwr dartiau, Jack 'The Beard to be Feared' Sargeant. Ymysg y chwaraewyr a ymwelodd â’n Senedd roedd chwaraewr rhif 1 y byd, y Cymro Gerwyn Price, a phencampwr yr uwch gynghrair y llynedd, Jonny Clayton.
Rwy’n siŵr fod y Senedd gyfan yn dymuno’n dda i fechgyn Cymru yn yr uwch gynghrair eleni. Mae Cymru ar flaen y gad yn y byd dartiau, a dylem oll fod yn hynod falch o’r chwaraewyr sy’n ysbrydoli miliynau o bobl yn ddyddiol o gwmpas y byd. Edrychaf ymlaen at groesawu’r Gorfforaeth Dartiau Proffesiynol a’r chwaraewyr yn ôl i’r Senedd yn y dyfodol i arddangos eu doniau anhygoel yma yn ein cartref, Senedd Cymru. Diolch, Lywydd.
Diolch yn fawr. Rwy’n dipyn o gefnogwr dartiau fy hun, felly roeddwn yn arbennig o awyddus i glywed y datganiad hwnnw heddiw.
Diolch i bawb am hynny. Fe gymerwn ni egwyl fer nawr, ac fe gawn ni doriad tra bod newidiadau i'r Siambr yn cael eu cynnal. Diolch.