Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Darren Millar am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heddiw. Mae gordewdra yn gyflwr cymhleth ac ni all y Llywodraeth na'r GIG ei ddatrys wrth weithio ar eu pen eu hunain. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai dull partneriaeth a dull system gyfan yw'r unig ffordd o sicrhau newid.
Strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Llywodraeth Cymru yw'r cam cyntaf tuag at ddull trawslywodraethol o leihau gordewdra yng Nghymru ar raddfa poblogaeth. O ganlyniad uniongyrchol i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, a basiwyd gan y Senedd ddiwethaf, lansiwyd y strategaeth ym mis Hydref 2019 a chaiff ei chefnogi gan gyfres o gynlluniau cyflawni bob dwy flynedd. Wrth ddatblygu'r strategaeth, daethom â'r dystiolaeth ryngwladol orau ar gyfer newid at ei gilydd. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni, o gyllid i bolisi a deddfwriaeth. Dechreuodd y gwaith o'i chyflawni o ddifrif yn 2019. Gwnaethom nodi ein cynllun uchelgeisiol i gefnogi'r gwaith ar gyfer 2020-22 ac roeddem yn anelu'n uchel. Fodd bynnag, newidiodd y pandemig drywydd ein gwaith yn sylfaenol ac mae wedi gwaethygu a dyfnhau heriau a oedd yn bodoli eisoes. Cafodd gallu cyllido gwasanaethau ar draws y Llywodraeth a phartneriaid allweddol ei symud i ddiwallu anghenion brys a achoswyd gan COVID-19, sy'n golygu bod llawer o'r ymrwymiadau a nodwyd yn y cynllun wedi'u gohirio. Cafodd staff y GIG eu hadleoli i feysydd lle roedd angen brys yn ystod yr ymateb i'r pandemig, a dyna lle'r oedd eu hangen fwyaf.
Wrth inni geisio symud heibio'r don omicron, mae byrddau iechyd yn gobeithio ailgychwyn y gwasanaethau presennol tra'n parhau â chynlluniau newydd. Ar 1 Mawrth, byddaf yn cyhoeddi cynllun cyflawni 2022-24, sy'n cynnwys y gwersi a ddysgwyd o'r ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd hyn yn cynnwys ymrwymiad ariannu o dros £13 miliwn dros ddwy flynedd. Byddaf yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn a fydd yn tynnu sylw at raddfa ac uchelgais ein cynlluniau i sicrhau newid gwirioneddol. O'r buddsoddiad hwn, dyrennir £5.8 miliwn yn benodol i fyrddau iechyd, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cymorth teg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy ddarparu llwybr rheoli pwysau i Gymru gyfan. Bydd hyn yn helpu i sefydlu gwasanaethau ochr yn ochr â buddsoddiad ehangach drwy fyrddau iechyd. Mae llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan wedi'i gynllunio i sicrhau ein bod yn ei wneud yn deg drwy Gymru. I gydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn, parhaodd y gwaith arno o ddifrif dros y pandemig ac roeddwn yn falch iawn o'i lansio'n swyddogol yr haf diwethaf. Gwyddom y bydd yn cymryd amser i adeiladu'r seilwaith gofynnol wrth i'r gwasanaeth ddatblygu, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gydag arweinwyr lleol, gan ddangos eu hymrwymiad i gynnydd. Bydd cyfres o raglenni, o opsiynau ymarfer corff i sgiliau maeth, yn dod â dull cwrs bywyd at ei gilydd.
Mae byrddau iechyd lleol wedi cynllunio a datblygu estyniadau i gael mynediad at wasanaethau cymunedol ar lefel 2. Bydd hyn yn darparu ystod o gymorth i unigolion allu cael gafael ar gymorth ar yr adeg iawn iddynt hwy. Am y tro cyntaf yng Nghymru, bydd gwasanaethau lefel 3 arbenigol ar gyfer plant a theuluoedd yn cael eu darparu ledled Cymru. Rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd lleol flaenoriaethu hyn ac mae cynlluniau datblygedig ar waith i wella'r gwasanaethau a ddarperir. Gyda chymorth a gwaith cydweithredol ein proffesiynau gofal sylfaenol, mae gennym bellach gynllun atal gordewdra gofal sylfaenol i gefnogi a sbarduno'r gwaith o ddarparu'r llwybr, gan gynnwys gwneud i bob cyswllt gyfrif drwy ddulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sydd wedi'u llywio gan seicoleg. Ac rydym yn adeiladu cynnig digidol ar lefel 1 y llwybr gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd hwn yn cael ei ategu gan ddull ymgyrchu ymddygiadol hirdymor a bydd yn rhoi cymorth a chyngor defnyddiol i bobl ledled Cymru. Ac a gaf fi sicrhau Jenny Rathbone ein bod yn parhau i dreialu rhaglen atal diabetes Cymru gyfan ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru? A bydd gennyf fwy i'w ddweud am hynny yn fy natganiad ar 1 Mawrth.
Drwy'r fframweithiau cynllunio GIG a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar, bydd byrddau iechyd yn cael eu monitro a'u dal yn atebol i Weinidogion er mwyn sicrhau bod y cynnydd yn parhau'n gyflym. Mae byrddau iechyd lleol hefyd yn cyflwyno gwaith monitro blynyddol i Lywodraeth Cymru. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol ac rydym wedi dyrannu £4.5 miliwn o gyllid i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon cymunedol, gyda buddsoddiad pellach o £24 miliwn mewn cyfleusterau dros y tair blynedd nesaf. Mae addysg iechyd yn hanfodol, ac mae'r Cwricwlwm i Gymru, ein cwricwlwm newydd, yn cynnwys iechyd a llesiant fel un o chwe maes dysgu a phrofiad statudol. Rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfleoedd gweithgarwch corfforol mewn ysgolion. Rydym wedi buddsoddi yn y gaeaf llawn lles ac rydym wedi ymrwymo i archwilio diwygio'r diwrnod ysgol. Drwy ein cynllun 'Pwysau Iach', rydym hefyd yn datblygu rhaglen egnïol ddyddiol newydd ar gyfer ysgolion gyda phartneriaid. Rwyf hefyd yn awyddus i archwilio'r defnydd o bwerau trethu i gefnogi deiet iach, a bydd fy swyddogion yn cwmpasu cynigion cychwynnol ar y mater hwn.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at lansio ein cynllun cyflawni 'Pwysau Iach: Cymru Iach' 2022-24 ar 1 Mawrth, a fydd yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni, gan gydnabod yr ymdrechion sylweddol y mae byrddau iechyd wedi dechrau eu gwneud. Gofynnaf i bob Aelod gefnogi ein gwelliant i'r cynnig heddiw. Diolch.