Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 2 Chwefror 2022.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y Siambr hon unwaith eto ar ordewdra, a diolch i James Evans am ddod â hyn i'r llawr heddiw a rhoi sylw i'r angen pendant i fynd ben ben â gordewdra unwaith eto. Nid problem gosmetig yn unig yw gordewdra; mae'n glefyd cymhleth a phroblem feddygol sy'n peri pryder ac yn cynyddu'r risg o gymhlethdodau iechyd mawr, gan gynnwys llawer a amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, James Evans, yn gynharach, yn cynnwys clefyd y galon, diabetes, pwysedd gwaed uchel a hyd yn oed canser.
Yn 2016, roedd 1.9 biliwn o bobl yn y categori dros bwysau, gyda 650 miliwn o bobl yn ordew, ac mae gordewdra byd-eang bron â bod wedi treblu ers 1975—ffigurau sy'n peri pryder. Mae'n destun pryder ein bod yn wynebu darlun llwm yng Nghymru. Dengys ystadegau fod bron i ddwy ran o dair o bobl 16 oed a hŷn wedi nodi yn 2021 fod ganddynt BMI o fwy na 25, gan eu gwneud yn ordew neu dros bwysau. Mae'n ofid mawr nad yw'r darlun yn dda i'n pobl ifanc ychwaith, gyda lefelau gordewdra a gorbwysau ymhlith plant Cymru bellach yn uwch nag y buont erioed, a byddant yn parhau i godi oni bai ein bod yn gweithredu yn awr. Er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi lansio nifer o gynlluniau ers i mi fod yma o dan y rhaglen 'Pwysau Iach: Cymru Iach', dair blynedd yn ddiweddarach ymddengys na wnaed fawr o gynnydd ar sefydlu arferion iach ymhlith poblogaeth Cymru.
Mae ffactorau amrywiol yn chwarae eu rhan yn yr argyfwng gordewdra, ac un o'r elfennau diweddar sy'n cyfrannu ato, yn amlwg, yw'r pandemig, fel yr amlinellwyd yn gynharach. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gwelsom gau campfeydd, pyllau nofio a chyfyngu ar ymarfer corff awyr agored hyd yn oed. Gwelsom filiynau o bobl yn cael eu gorfodi i fod yn anweithgar yn gorfforol, a chafodd hyn effaith wirioneddol ddinistriol ar iechyd ein cenedl. Mae'n amlwg fod angen cynllun gweithredu difrifol arnom i fynd i'r afael â gordewdra. Mae angen i unrhyw gynllun a ddaw fod yn hollgynhwysol, yn gydnabyddiaeth wirioneddol o natur draws-bortffolio'r broblem, ac yn gydnabyddiaeth eto fod atal bob amser yn well na gwella. Mae angen cyfleusterau chwaraeon newydd ym mhob rhan o Gymru—nid mewn dinasoedd yn unig ond mewn ardaloedd gwledig, i roi cyfle i bawb fod yn heini—a gwella ffyrdd fel ei bod yn ddiogel ac yn atyniadol i ddechrau beicio, rhedeg a cherdded. Ac eto, mae'n ymddangos ein bod yn cael ein llywodraethu gan Blaid Lafur wrth-ffyrdd nad yw wedi dyrannu unrhyw beth, yn llythrennol, i'r gronfa ffyrdd cydnerth yn y gyllideb.
Fel Gweinidog addysg yr wrthblaid, mewn unrhyw ran o gynllun i fynd i'r afael â gordewdra, rwyf am weld prydau ysgol iach, maethlon yn cael eu gweithredu, a gwell addysg ar ba mor bwysig yw deiet cytbwys, a pha mor bwysig yw ffordd o fyw egnïol. Mae atal ac addysg bob amser yn well na gwella, ac rwy'n gobeithio gweld hyn yn ffurfio rhan o'r cwricwlwm newydd. Yn hollbwysig, mae angen inni ddechrau meddwl yn greadigol, gan nad yw'r hyn a wnawn ar hyn o bryd yn gweithio. Beth am edrych ar rywbeth syml fel campfeydd awyr agored i oedolion wedi'u lleoli wrth ymyl meysydd chwarae fel y gall plant a rhieni gadw'n heini ar yr un pryd? Mae angen inni edrych ar syniadau syml, effeithiol a heb fod yn gostus fel y rhain.
I gloi, mae angen inni weld Gweinidogion yn bod yn rhagweithiol a syniadau newydd ar sut i drechu gordewdra. Nid yw'n ddigon meddwl y bydd gwahardd bwydydd neu hysbysebion gwael yn ddigon; mae maint effeithiau economaidd gordewdra mor sylweddol, ac yn ein helpu i ddeall o ddifrif ei bod hi'n bryd gweithredu ar frys yn awr. Mae angen inni annog a hyrwyddo newidiadau ffordd o fyw a'i gwneud mor hawdd â phosibl i bawb yng Nghymru gadw'n heini a mabwysiadu ffordd o fyw egnïol. Nawr yw'r amser i weithredu. Diolch.